主播大秀

Elin Fflur

Elin Fflur

Gwrandewch ar atebion Elin Fflur i holiadur C2

Un o artistiaid mwya' poblogaidd Cymru - Elin Fflur - oedd gwestai arbennig Daf Du ar Chwefror 26. Ers rhyddhau ei halbym ddiweddara 'Dim Gair' mae enw Elin ar wefusau miloedd o ffans cerddoriaeth yng Nghymru, a dyw pethe ddim yn debygol o newid.

Fe ddechreuodd ei gyrfa yn canu a chwarae'r gitar fas i'r grwp Carlotta gyda'i brawd Ioan, ac yn fuan wedyn aeth hi ymlaen i ganu c芒n fuddugol cystadleuaeth C芒n i Gymru ('Harbwr Diogel'). Dyma ddechrau cyfnod llwyddianus yn canu gyda'r Moniars cyn iddi lansio gyrfa unigol gyda'r albym 'Dim Gair' daeth allan llynedd.

Ynghyd 芒 Meinir Gwilym, Elin Fflur ydy un o'r artistiaid mwya' llwyddianus erioed yn - yn aros yn Rhif 1 am 11 wythnos gyda'r Moniars ac am 6 wythnos fel artist unigol ar 么l iddi ryddhau 'Dim Gair'. Ar hyn o bryd mae gan Elin gynlluniau cyffrous gan gynnwys recordio fersiwn Saesneg o'r albym 'Dim Gair' ('Speechless').

Mae hi hefyd yn cyfansoddi ei chaneuon ei hun, a roedd ei ch芒n 'Llwybr Lawr i'r Dyffryn' yn agos iawn i gipio cystadleuaeth C芒n i Gymru llynedd. Fydd neb yn synnu, felly, o wybod bod gan Elin ddewis arbennig mewn cerddoriaeth - dyma'r caneuon ddewisodd hi ar C2:

C芒n o Blentyndod: Mojo - Dipyn Bach mwy Bob Dydd

C芒n Carioci: No Doubt - Don't Speak

C芒n Torri Calon: Sarah Mcloughlan - In the Arms of an Angel (o'r ffilm City Of Angels)

C芒n yn y Car: Big Leaves - Seithenyn

C芒n nos Wener: Bryn F么n - Un Funud Fach

C芒n Snog Gyntaf: Ysbryd y Nos - Edward H. Dafis

C芒n Creu Argraff ar Ddyn: Alanah Miles - Black Velvet

C芒n Gyntaf mewn Parti: Y Cyrff - Cymru, Lloegr a Llanrwst

Cas G芒n: Madonna - Like a Virgin

Albym Gorau: Pink - Try This

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.