主播大秀

Albym newydd Bryn Fon

Bryn Fon - Llun gan Iolo Penri

Crafu pen am beth i'w gael yn anrheg Nadolig? Crafwch ddim mwy, gan y bydd albym newydd Bryn F么n a'r Band - Toca - yn cael ei ryddhau ar Ragfyr 1af.

Mae hi bellach yn ddwy flynedd dda ers i Bryn F么n a'r Band ryddhau eu albym ddiwethaf - Cam, oedd yn gasgliad o ganeuon Alun 'Sbardun' Huws, gynt o'r Tebot Piws. Flwyddyn ynghynt yn 2004, rhyddhawyd Abacus - yr albym ddiwethaf o ganeuon y band iddynt ei ryddhau... ond mae'r disgwyl am ganeuon newydd drosodd!

Recordiwyd a chymysgwyd yr 13 trac newydd yn Stiwdio Bryn Derwen, Bethesda rhwng Mai a Medi 2007 gyda Dave Wrench yn peiriannu a chynhyrchu. Hon fydd y drydedd albym i'r band ryddhau ar eu label eu hunnain - LaBel aBel. Dyma restr o draciau'r albym:

  • 1. Hedfan i Orsedd y Cwmwl (Rhan 1)
  • 2. Asado Ar Y Paith
  • 3. Y Gan Gymraeg
  • 4. In Absentia
  • 5. Wwwrth Dy Draed
  • 6. Yfed Mat猫
  • 7. Dim Mynadd
  • 8. Dawnsio y Ranchero
  • 9. Ddoi 'N么l
  • 10. Digon
  • 11. Sgidia Coch
  • 12. Y Bardd o Hendre Hall
  • 13. Hedfan i Orsedd y Cwmwl (Rhan 2)

    Os na allwch chi ddisgwyl tan ddechrau Rhagfyr i glywed y caneuon newydd, gallwch fynd i weld Bryn F么n a'r band ar eu taith theatrau, yn hyrwyddo'r albym newydd yn y lleoliadau canlynol:

    Gwener Tachwedd 9

    • Clwb Golff Caernarfon

    Sadwrn Tachwedd 24

    • Theatr Ardudwy, Harlech

    Mercher Tachwedd 28

    • Neuadd Dwyfor, Pwllheli

    Mercher Tachwedd 29

    • Neuadd Dwyfor, Pwllheli

    Gwener Tachwedd 30

    • Theatr Gwynedd, Bangor

    Sadwrn Rhagfyr 1

    • Theatr Gwynedd, Bangor

    A chyn hynny, cofiwch wrando ar C2 gan y byddwn yn siwr o'u chwarae.

  • Gwrando

    Podlediad

    Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

    Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

    主播大秀 iD

    Llywio drwy鈥檙 主播大秀

    主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.