主播大秀

Clasuron Hen a Newydd

Sibrydion

Sibrydion

Cyfle i glywed Y Cyrff yn chwarae'n fyw!

Oeddech chi yno? Oeddech chi yn y dorf yn gweld yr hogia' o Lanrwst yn perfformio ar nos Sul 'Steddfod Llanrwst neu nos Sadwrn 'Steddfod Cwm Rhymni?

Os ydach chi eisiau'r cyfle i ail fyw y profiad, mi fyddwch chi'n falch o glywed fod label RASAL yn cyhoeddi cagliad newydd o Oreuon y Cyrff, gan gynnwys perfformiadau byw o rai o'u caneuon enwocaf.

Bydd y casgliad ar gael i'w brynu yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri. Mae'r casgliad yn cynnwys 35 o draciau ar 4 crynoddisg, fydd yn cynnwys y clasuron Cofia Fi yn Ddiolchgar, Llawenydd Heb Ddiwedd, Cymru, Lloegr a Llanrwst a llawer llawer mwy!!

Shhhhhhhhhhh!

Ma' criw C2 yn edrych ymlaen yn arw i glywed albym newydd y band wnaeth ennill y wobr am Sesiwn C2 Orau yng Ngwobrau Rap eleni.
Bydd albym y Sibrydion 'JigCal' yn cynnwys y 3 c芒n o'r sesiwn sef Dafad Ddu, Rhedeg i Ffwrdd a Mynd Drwy'r To.
Hon yw albym gyntaf y brodyr Meiliyr ag Osian Gwynedd gynt o'r Big Leaves gyda'i band newydd.

Bydd cyfle i weld y Sibrydion yn perfformio'n fyw yn ystod y mis nesaf, pan fyddan nhw ar daith gyda'r Caves a Kentucky AFC.

Ma' manylion yr holl gigs i'w gweld .

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.