主播大秀

Grwp newydd aelodau Catatonia

Sherbet Antlers

Mae'r Sherbet Antlers wedi glanio!
Newyddion arbennig i holl ffans Catatonia ydy bod cyn-aelodau'r grwp - Mark Roberts a Paul Jones, wedi ffurfio grwp newydd gyda John Griffiths a Kevs Ford o Llwybr Llaethog. Mae C2 newydd dderbyn copi o sengl newydd y 'Sherbert Antlers' fydd allan yn y siopau ar Chwefror 9fed, 2004.

Enw'r sengl dwbwl fydd 'Hikikomorai/Let Yourself Go' a mae'n cael ei rhyddhau ar label Llwybr Llaethog, sef Neud nid Deud. Yn galw eu hunain yn 'grown up boy-band', mae'r gerddoriaeth yn gymysgedd o synau electroneg a gitar gyda harmoniau melodic ac ychydig o help gan lais Delyth Eirwyn.

Mae'n debyg mae rhyw fath o gyflwr lle mae pobl ifanc yn cloi eu hunain yn eu hystafelloedd gwely ydy hikikomorai. Mae'n broblem fawr yn Japan ar hyn o bryd, a mae gan y grwp ddipyn o ffans yn y wlad honno yn barod. Cofiwch wrando ar C2 dros yr wythnosau nesaf i glywed y sengl - am fwy o wybodaeth ewch i wefan y grwp - .

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.