主播大秀

'Welsh Rare Beat'

Gruff Rhys, Super Furry Animals

Casgliad o hoff glasuron Gruff Rhys
Mae Gruff Rhys, canwr y Super Furry Animals, wedi bod yn chwythu llwch o hen recordiau vinyl Cymraeg ar gyfer casgliad newydd o ganeuon gafodd eu rhyddhau ar label recordiau Sain yn y 60au a 70au.

Bydd y casgliad, sydd 芒'r enw anhygoel Welsh Rare Beat, yn dod allan ar label ar Awst 15fed ac yn cynnwys 27 o draciau gan fandiau mor amrywiol 芒 Tebot Piws, Geraint Jarman a Sidan. Finders Keepers yw'r label nath ryddhau'r casgliad o recordiau prin Folk is not a Four Letter Word - CD oedd hefyd yn cynnwys traciau gan hen fand Caryl Parry Jones, Sidan.

Gafodd y caneuon sy'n ymddangos ar Welsh Rare Beat eu dewis gan Gruff Rhys gyda help Dominic Thomas ac Andy Votel (y dyn gasglodd y recordiau ar gyfer Folk is not a Four Letter Word), ac mae'r label yn credu bydd y CD newydd yma yn dod 芒 sylw rhynwladol i hen gerddoriaeth Cymraeg.

Bydd y casgliad ar gael ar ffurf CD a vinyl a bydd rhaglen C2 yn rhoi copiau wedi'u harwyddo fel gwobrau yn fuan. Ac os oes ganddo chi ddiddordeb mewn hen glasuron Cymraeg, yna cofiwch wrando ar rhaglen C2 ar Radio Cymru nos Fercher yma (Mai 18ed) pan fydd Dyl Mei o Pep le Pew yn ymuno 芒 Huw Stephens am 10pm i fynd drwy ei hoff glasuron coll.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.