主播大秀

@ebion: Bwlio

Nia Medi

Nia Medi yn trafod materion sy'n bwysig i bobl ifanc Cymru. Yn y rhaglen hon bwlio oedd o dan sylw.

Not found

Ar yr awyr nesaf: Dydd Gwener, 6 Meh 2008, 21:00-21:45


Bwlio - Be sydd gan yr heddlu i'w ddweud?

Mae pedwar Heddlu Cymru, mewn partneriaeth ag Addysg a Llywodraeth Cymru, wedi ymrwymo i gyflwyno Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan (RhGCYCG) i bob Ysgol yng Nghymru. Ar hyn o bryd caiff y Rhaglen ei haddysgu gan 85 o Swyddogion Heddlu dynodedig. (13 yma yn Heddlu Dyfed-Powys)

Mae i'r Rhaglen dri llinyn

Camddefnyddio cyffuriau a sylweddau

Ymddygiad cymdeithasol a'r gymuned

Diogelwch

Mae'r rhaglen yn cynnig cynllun sbiral o wersi i ddisgyblion yn amrywio o'r ysgol gynradd i'r uwchradd - 5-16 oed.

BWLIO

Cyflwynir nifer o wersi i ystod o oedrannau sy'n ffocysu ar;

adnabod effeithiau niweidiol bwlio

datblygu strategaethau i ddatrys gwrthdaro a delio gyda bwlio

gwerthfawrogi a dathlu gwahaniaeth ac amrywiaeth

ymwybyddiaeth o hawliau dynol a chyfrifoldebau

Ym mis Medi eleni lawnsiwyd gwers arbennig ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o beth yw bwlio seiber.

Cyflwynwyd mewn partneriaeth gyda'r Ganolfan Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn (CEOP)

Yn ogystal a chyflwyno gwersi yn yr ysgolion, mae'r swyddogion yn cynnal sesiynau codi ymwybyddiaeth i staff, llywodraethwyr a rhieni fel bo'r galw. Os oes gan unrhywun bryderon neu gwestiynnau am fwlio yna cysylltwch â'r heddlu ar 101, neu edrychwch ar ein gwefan neu gwefan yswyddogol y rhaglen www.schoolbeat.org

Bwlio

Mewn arolwg gafodd ei 'neud llynedd gan wefan Bullying online o bobl oedd yn cael eu bwlio, allan o'r miloedd wnaeth ymateb gwelwyd bod 49% o achosion yn erbyn merched a 51% yn erbyn bechgyn. Ro'dd 40% yn achosion o fwlio corfforol a 49% yn ymwneud a bwlio seicolegol.

Beth sy'n gwneud bwli a sut ma' delio gyda ef/hi? Dymm rhai o wefannau mwya defnyddiol i chi i gael mwy o wybodaeth boed chi'n berson ifanc yn cael eich bwlio, neu yn rhiant sy'n amau fod eich plentyn yn dioddef...

www.bullying.co.uk

Gwefan yn lle facebook

Ar ol i Megan Dance gael ei bwlio yn yr ysgol, aeth ei thad ati i greu gwefan newydd tebyg i facebook, ond dipyn saffach.
Am fwy o wybodaeth: www.greatbritishkids.com

Mwy o gymorth bwlio?

Os ydych yn meddwl eich bod yn fwli neu yn amau bod eich plentyn yn fwli, yna dyma ychydig o gymorth I chi.

Sgwrs Nia Medi, Dafydd jones a Dr Dai Samuel

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Bwlio ar y we

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Dweud wrth athro / cyngor

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Stori Megan

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.