Main content

Radio Cymru 2

Betsan Powys

Editor, Radio Cymru

Tagged with:

(L-R) News presenter Heledd Si么n, Huw Stephens, Caryl Parry Jones, Dafydd Meredydd, Lisa Gwilym

A few days ago, I saw it for the first time. There it was, slap bang between Radio Cymru and CBeebies radio on the iPlayer Radio app dial - Radio Cymru 2. It’s small, it’s very simple but it makes me incredibly proud. Why?   

Because five years ago, having just been appointed to a new job as Editor of Radio Cymru, the 主播大秀’s national radio service for Welsh speakers, the response I got more often than not was “I wouldn’t want to be in your shoes!” Close second came the other favourite, usually uttered with an unnerving, sympathetic smile: ”You can’t win.” 

The concern of avid listeners, non-listeners and ex-listeners, expressed over and again, was that Radio Cymru ‘has to be all things to all people’ . How can you be Radio 1, 2, 3, 4, 4 Extra, 5 and 6 ... without alienating as many listeners as you gain  and ending up falling between rather more than just two stools?

Well, for 40 years, Radio Cymru has given it one heck of a shot. We remain the number one station of choice among more fluent Welsh speakers and have an audience whose station loyalty is as inspiring  as it is impressive in terms of hours spent tuning in week after week. We broadcast every day from first thing in the morning until midnight and talk to listeners live from studios in Cardiff,  Carmarthen, Aberystwyth and Bangor every week day.

When we claim to be ‘Llais Cymru’ – the voice of Wales - the whole of Wales, we mean it. Radio Cymru’s news, sport, magazine programmes, features, documentaries and drama are appreciated and award-winning – but the listeners aren’t daft. The appetite was genuine, the question was the right one to ask. How could we compete with a huge choice of stations who were increasingly focussing on offering one sound, seamlessly, all day long and doing it brilliantly? How could we future-proof Radio Cymru in a digital age, where technology is global, English is the lingua franca and content in minority languages struggle to be heard? How could we offer programmes to a wider range of listeners, in appetite as much as age, without causing others to switch off?

Take my own family. I was brought up in a Welsh-speaking home and it was only when I heard a fellow Welsh-speaking student  listening not to Radio Cymru but Radio 1 – Radio 1! – that it dawned on me not everyone’s radios had been exclusively set to 96.8FM throughout their childhood. My parents remain loyal listeners. My partner is London-born and learned Welsh having moved here a decade ago. My children are bilingual and when they do listen to the radio at all, they don’t believe in cosying up to their mother by sticking to Radio Cymru. One half wants news and analysis in the morning and switch off at the threat of music. The other half sigh loudly and won’t listen unless there’s music, a laugh and a chance to be involved via social media. They all want to do it in Welsh.   

And from today, 29 January, that’s exactly what they’ll get to do – make a choice of listening in Welsh. For the first time ever, listeners across Wales who want to tune in to a Welsh language radio service can choose  – news, sport and anlysis with the Post Cyntaf team on Radio Cymru on FM and all digital platforms, or the Sioe Frecwast on . And yes, it’s one new programme but that doubles the choice. Think Radio 4 and Radio 2.   

From Monday, wake up and sing out loud with Daf and Caryl; on Friday ask Huw Stephens (yes, that’s Radio1’s Huw Stephens) to say happy birthday to your Mum; expect the unexpected and luxuriate in the best of Welsh music with the two Lisas, Angharad and Gwilym, on the weekend.

With choice, doors start to open. Radio Cymru can concentrate on doing what it does even better first thing in the morning offering national and international news, from a Welsh perspective. On Radio Cymru 2, there’ll be a breakfast show and all the sounds you’d expect from a lively, engaging, presenter-led programme.. We’ll open the door to those who are full of ideas for trying out some new voices or pop-up weekends, who’ll take Radio Cymru 2 by the scruff of the neck and reach out to an audience who tell us that ‘my Welsh isn’t good enough for Radio Cymru’. Radio Cymru 2 will speak their Welsh and will want to hear from them too. 

Last year, . Here we are again – another vote of confidence, taken in 2017, delivering real choice on air in 2018. It’s been no mean feat bringing Radio Cymru 2 to air – ‘diolch’ to the Distribution and Radio Music Multi-Platform teams for searching for technical solutions when things got tough.

From today, the choice will be yours; the pleasure and challenge of bringing Radio Cymru 2 to life will be ours. 

Betsan Powys is Editor of Radio Cymru

service launches with the daily Sioe Frecwast breakfast programme, Monday, January 29, at 6.30am.

You can listen to Radio Cymru 2 on digital radio. Many digital sets will automatically update and will discover Radio Cymru 2 without any assistance. But if not, listeners can select the Auto Tune or Auto Scan option to add Radio Cymru 2 to their list of stations.

You can also listen live - and to any episode during the previous 30 days - on the 主播大秀 iPlayer Radio app and

Radio Cymru 2 will also be on TV:

  • Freeview, YouView, BT TV, & Talk Talk TV – channel 721
  • Sky, channel 0154; Freesat, channel 718 (and 735 outside Wales)

 

Fe ges i nghip-olwg cyntaf arno ychydig ddyddiau’n ôl. Dyna lle roedd e, reit yn y canol rhwng Radio Cymru a CBeebies ar yr ap iPlayer Radio – botwm glas Radio Cymru 2. Mae’n fach, mae’n edrych - wel, run fath â phob botwm arall ar yr ap - ond mae ei weld e yno’n g'neud i fi deimlo’n hynod o falch. Pam?

Wel, bum mlynedd yn ôl, a finne newydd gael fy mhenodi i job newydd fel Golygydd Radio Cymru, yr ymateb ges i yn amlach na pheidio oedd “Fyddwn i ddim eisiau bod yn dy esgidiau di!” Byddai eraill yn dod draw gyda gwên ddidwyll gan amla ac yn llawn cydymdeimlad: “Fedri di ddim plesio pawb.”  

Yr hyn oedd yn poeni gwrandawyr brwd, cyn-wrandawyr, a phobl na fyddai fyth wedi breuddwydio gwrando oedd bod yn rhaid i Radio Cymru ‘fod yn bopeth i bawb’. Sut allwch chi fod yn Radio 1, 2, 3, 4, 4 Extra, 5 a 6 ... heb golli’r un nifer o wrandawyr ag y byddech chi’n eu hennill? Y peryg cwbwl amlwg yn y pendraw yw plesio neb. 

Ers 40 mlynedd, mae Radio Cymru wedi gneud jobyn aruthrol o warchod y teyrngar, tra’n mentro taflu’r rhwyd yn ehangach.  Radio Cymru yw dewis cyntaf siaradwyr Cymraeg rhugl. Mae teyrngarwch y  gynulleidfa i’r orsaf, o ran yr oriau maen nhw’n eu treulio yn gwrando wythnos ar ôl wythnos yn anhygoel, yn ysbrydoledig.

Ry’ ni’n darlledu bob dydd, o’r peth cyntaf yn y bore tan hanner nos, yn siarad gyda’n gwrandawyr yn fyw o stiwdios yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, Aberystwyth a Bangor bob dydd. Nid siarad gwag yw dweud mai ni yw ‘Llais Cymru’ - Cymru benbaladr.  

Mae newyddion, chwaraeon, rhaglenni cylchgrawn, nodwedd, dogfen a dramau Radio Cymru wedi ennill gwobrau ac mae pobl yn eu gwerthfawrogi – ond hyd yn oed tra’n gwerthfawrogi, roedd y gwrandawyr yn gweld ymhell. Ro’n nhw’n gwbwl ymwybodol ei bod hi’n mynd yn anos i Radio Cymru gystadlu â dewis aruthrol bellach o orsafoedd sy'n canolbwyntio ar gynnig un llais, un swn, yn ddi-dor drwy’r dydd ac yn llwyddo i wneud hynny’n dda. Sut felly roedd modd i ni ddiogelu Radio Cymru at y dyfodol mewn oes ddigidol, lle mae technoleg yn fyd-eang, Saesneg yn iaith gyffredin, a chynnwys ieithoedd lleiafrifol yn cael trafferth i grafangu’i ffordd i’r brig? Sut mae cynnig rhaglenni i ystod ehangach o wrandawyr, o ran chwaeth ac oedran, heb ddarbwyllo eraill i droi cefn ar yr orsaf?  

‘Styriwch fy nheulu i fy hun. Cymraeg oedd iaith yr aelwyd. Dim ond pan glywais i gyd-fyfyrwraig Gymraeg ei hiaith yn gwrando ar Radio 1 – Radio 1! – wrth wneud ei gwaith y sylweddolais i nad oedd setiau radio pawb wedi’u hoelio i donfedd 96.8FM pan yn blant. Mae fy rhieni’n dal i fod yn wrandawyr ffyddlon. Un o Lundain yw fy mhartner ac mae e wedi dysgu Cymraeg ers symud yma ddeng mlynedd yn ôl. Mae’n ei chael hi’n haws dilyn rhai rhaglenni nac eraill. Mae’r plant yn ddwyieithog a phan fyddan nhw’n gwrando ar y radio, d'yn nhw ddim yn credu mewn crafu i’w Mam drwy aros yn ddi-ffael gyda Radio Cymru. Felly, un teulu ond tra bo rhai eisiau clywed y newyddion a’r dadansoddi yn y bore ac yn ochneidio o glywed y record gynta, mae'r lleill yn diawlio ac yn gwrthod gwrando o gwbwl oni bai fod 'na gerddoriaeth, dipyn bach o hwyl a chyfle i gyfrannu drwy'r cyfryngau cymdeithasol.

Waeth beth eu chwaeth, yr iaith maen nhw am ei chlywed, yw’r Gymraeg.   

Ac o’r peth cyntaf bore ‘ma, dyna’n union fydd ar gael iddyn nhw  – y gallu i wneud dewis wrth wrando yn y Gymraeg. Am y tro cyntaf, bydd gwrandawyr ledled Cymru sydd eisiau gwrando ar wasanaeth radio yn y Gymraeg yn gallu dewis – newyddion, chwaraeon a dadansoddi gyda thîm Post Cyntaf ar Radio Cymru ar FM a phob platfform digidol, neu’r Sioe Frecwast ar Radio Cymru 2 ar bob platfform digidol, sydd ar gael ledled Cymru. Ac ie, un rhaglen newydd ydy hi ond mae hynny’n dyblu'r dewis - rhywle tua Radio 4 a Radio 2 falle.   

O ddydd Llun ymlaen, beth am ddeffro a chanu fflatowt gyda Daf a Caryl? Ddydd Gwener, gofynnwch i Huw Stephens (ie, yr Huw Stephens sydd ar Radio 1) i ddweud pen-blwydd hapus wrth Mam, pob lwc i’r plant, penwythnos hapus i’r athrawon. A thros y penwythnos, byddwch yn barod i fwynhau’r annisgwyl yng nghwmni’r ddwy Lisa, Angharad a Gwilym, wrth iddyn nhw chwarae'r gerddoriaeth Gymraeg orau.

Mae drysau’n agor wrth gynnig dewis. Gall Radio Cymru ganolbwyntio ar gynnig gwasanaeth hyd yn oed yn well peth cyntaf yn y bore, torri straeon perthnasol, diddorol ac adrodd ar newyddion cenedlaethol a rhyngwladol o bersbectif Cymreig. Ar Radio Cymru 2, bydd y sioe frecwast fywiog yn help i ddeffro gyda gwên. A chredwch fi, fe fyddwn ni’n agor y drws led y pen i’r rheiny sy’n llawn syniadau ac yn awyddus i’w rhannu, sydd am roi cyfle i leisiau newydd gael tro arni, i greu sain fydd yn unigryw i Radio Cymru 2. Dyma’r rhai fydd yn mynd â Radio Cymru 2 at gynulleidfa newydd, at gynulleidfa sy’n haeddu cael ei chosi, un sy’n dweud o hyd nad yw eu Cymraeg nhw’n ddigon da i wrando ar Radio Cymru. Bydd Radio Cymru 2 yn siarad eu hiaith nhw ac yn barod i wrando arnyn nhw hefyd. 

Llynedd, roedd Radio Cymru’n dathlu 40 mlynedd ers i’r 主播大秀 gymryd y cam hyderus hwnnw ym maes darlledu yn y Gymraeg, a lansio gorsaf radio Gymraeg. A dyma ni unwaith eto – cam hyderus arall, un sy’n dangos ffydd o’r newydd, yn rhoi dewis go iawn ar yr awyr yn 2018. Mae wedi bod yn gryn gamp i ddod â Radio Cymru 2 yn fyw. Diolch o galon felly i’r timau yn Llundain a Chaerdydd fu’n chwilio’n ddi-droi-nôl am atebion technegol newydd, blaengar pan ddaeth problemau i’n herio ni. 

O heddiw ymlaen, chi fydd piau’r dewis; ni fydd â'r pleser a’r her o ddod â Radio Cymru 2 yn fyw.

Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru

 

Tagged with:

More Posts

Previous

Round up Week 4 (20-26 January)

Next