Dybl L, Vampire Weekend, Ankstmuzik yn 10
Helo, ac yn wir, helo.
Roedd sesiwn Dybl L yn un diddorol wthnos ddiwetha, gwrandewch eto os naethoch chi golli e, a mae ei sengl allan ar Ciwdod nawr.
Wedi bod yn mwynhau albym Vampire Weekend wthnos yma. Bob blwyddyn mae llwyth o fandie yn cel eu hawgrymu gan y wasg i fod yn fawr a llwyddiannus, ond ma pawb yn mynd am y rhai amlwg fel Adele, Duffy a rhain. Ond ma nhw yn hynod o dda; syniade, synnau retro, dylanwad Affricanaidd, a trac ar yr albym o'r enw Bryn. Pwy ydi'r Bryn ma band mwya addawol America yn son am? Fon? Terfel? Recordiau Gwynfryn? Pwy a ŵyr - nai chware'r gân wthnos yma.
Ac Emyr o label Ankstmuzik ydi fy ngwestai ar C2 heno am 10pm i son am y 10 mlynedd diwetha o'r label a'r casgliad newydd.