Owain Griffith - Violas / Carw
Haia
Un o fy hoff CDs o 2012 oedd un nes i ei phrynu yng Ngwyl Gwydir y llynedd - EP 'Nos Somnia' gan Violas. Mi oedd y Violas yn gwneud set fach acwstic ar lwyfan Nyth, ac yn perfformio fersiyne acwstic o dracie fel Penseiri ac Ama Dablam.
Ers clywed 'Nos Somnia' am y tro cyntaf, mae harmonia hyfryd, curiadau hudolus a synau hiraethus Violas wedi dod yn dipyn o ffefryne gen i, felly difyr iawn oedd clywed fod Owain o'r grwp wedi dechra prosiect unigol o'r enw "Carw". Mae o wedi creu cyfri , ac wedi rhoi un trac - Elevate - ar . O'r nodyn cyntaf, mae'r trac yn dwyn i gof swn gitar y Violas, ond mae'r curiadau electroneg yn dod a naws eitha gwahanol i "Carw".
Gobeithio cawn ni lot mwy gan Owain, achos mae Elevate yn wych... ond gobeithio hefyd y bydd y Violas yn parhau fel grwp!
Hwyl
Lis
x
ON Newydd glywed gan Owain - mae o'n gweithio ar fwy o ganeuon ar hyn o bryd, hefo'r gobaith o ryddhau EP pan fydd digon o ddeunydd. Mae'n recordio hefo'r cynhychydd Llion Robertson, ac yn gobeithio gigio - ond ar hyn o bryd yn trio gweithio allan sut fyddai popeth yn gweithio'n fyw!! Diolch Owain!
SylwadauAnfon sylw
Newyddion gwych, edrychaf ymlaen at glywed mwy o'i ddeunydd newydd!