Aber Aber
Chelo peeps,
Wedi bod yn brysur iawn dros yr wythnose' dwetha' yn teithio dros Gymru gyda Glyn Wise i gynnal gweithdai radio gyda myfyrwyr a disgyblion ysgol.
Fi a Glyn wrth ein boddau yn cynnal y sesiynau gan bod hi'n gyfle gwych i gwrdd â chi - wrandawyr C2. Ma pawb sy'n cymryd rhan yn y gweithdai yn cael cyfle i gynhyrchu rhaglen radio drwy neud ein jobsys ni am y diwrnod! Ma rhai yn cyflwyno, rhai yn cynhyrchu, rhai yn dechnegwyr sain - ond ma' gan bob un rôl bwysig - yn union fel yn ein rhaglenni ni ar C2. Ma cynhyrchu rhaglen radio yn hollol ddibynnol ar waith tîm.
Be sy'n taro fi a Glyn pan 'y ni yn cynnal gweithdai radio yw'r cyfoeth o dalent sy yng Nghymru heddi'. Fwy nag unwaith, dwi a Glyn 'di bod yn crynu yn ein sgidie ar ôl gweld rhai o gyflwynwyr gwych yn yr ysgolion a'r prifysgolion - a ma Sian, Huw a Gwynfor - hefyd wedi bod yn poeni am ei swyddi o weld faint o gynhyrchwyr a thechnegwyr gwych sy mas 'na!
Gweithdy ym Mhrifysgol Aberystwyth oedd hi ddydd Mercher a ges i ddiwrnod gwych. Nes i fy ngradd yn Aber, felly roedd cael cyfle i fynd nol ir Coleg Ger y Lli yn brilliant. Nes i fynd â Glyn i Neuadd Pantycelyn i ddangos i fe lle nes i dreulio 3 blynedd mwya gwyllt, gwallgo - a gore fy mywyd!
A son am gwyllt a gwallgo - criw o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd nath gymryd rhan yn Glyn yn Galw nos Iau ar C2. Nath Gwilym Parry a chriw o fyfyrwyr yr ail flwyddyn lwyddo yn y 3 her - gan gynnwys dod a Pizza mewn ir stwidio. Roedden ni wedi gofyn iddyn nhw sgwennu Glyn ar y pizza, ond yn anffodus nath y boi Pizza ddrysu - a nath e sgwennu Pete arno fe!
Sa i'n credu bo lot o ots 'da Glyn serch hynny, nath e a fi sglaffio fe i gyd!
Yum.. diet yn (ail) ddechre fory!
M xx