Rhaglen hir
Henffych
Wrthi'n paratoi rhaglen Lisa at heno - rhaglen hir heno, gan fod yr Urdd ymlaen tan 8.30pm, a Magi awydd noson o wylia. Felly, dyma sut ma Lis am lenwi 2 awr a hanner rhwng 8.30pm a 11pm:
- Tracia newydd gan Pop Levi, Frizbee, Sigur Ros, Goldfrapp a Brigyn (ma cân Pop Levi yn anhygoel o dda)
- Trac exclusive gan Y Llongau - un o brojectau Dyl Mei sydd yn ei eiriau fo yn "ruff as **** ond dwi'n licio fo felna"
- Mi fyddai'n cyhoeddi pa artistiaid fydd yn cynrychioli Cymru ar lwyfan Ö÷²¥´óÐã Yn Cyflwyno... yn Glastonbury eleni (dwi'n andros o hapus hefo un o ddewisiadau'r panel - cliw bach i chi: ma hi wedi gwneud sesiwn i Lisa eleni...)
- Sesiwn gan grwp ifanc newydd o Gaernarfon - Y Bandana
- .. a ryw 25 o ganeuon eraill fydd Lisa wedi eu dewis
Mi neith yr amser hedfan...
Hwyl, Gar