Y Peth ydi
Beth sydd gan Rhys Ifans, Daf Ieuan a Guto Pryce, Osh a Mei Sibrydion, Kris Jenkins Zabrinski a Dic Ben Elfyn Presley, yn gyffredin? Wel, yr wythnos nesa mi fydd y criw yma i gyd yn neidio ar fỳs enfawr ac yn teithio o gwmpas Cymru yn gigio yn y llefydd mwyaf annisgwyl. Neuadd Bentref Llanddewi Brefi? Nhw fydd yr unig fand yn y pentref. Clwb Golff Bala? Fore! Gewch chi glywed cynlluniau The Peth ar gyfer eu taith, barn Noel Gallagher am y band, a hanes eu album newydd ar raglen Lisa heno am 10pm. Os fedrwch chi ddim disgwyl, dyma ragflas