Beth i'w wneud wythnos y Steddfod...
Os chi ddim yn gyfarwydd gyda Caerdydd ac yn chwilio am bethe i neud rownd y ddinas yn ystod y Steddfod, pan chi ddim yn cystadlu mewn unawd drama gerdd neu yn mosho yn gigs Maes B a'r Gymdeithas, ga i awgrymu:
1. Mynd i yn yr Ais. Y siop records hynaf yn y byd, a'r lle gore i brynu cerddoriaeth, yn cynnwys lot o cd's Cymraeg, yng Nghaerdydd. Mae chwiorydd Todd yn siarad Cymaeg hefyd os chishe deud helo.
2. Mynd i . Mae'r dafarn gyferbyn â'r castell ar yr un stryd â Clwb Ifor bach lle mae gigs y Gymdeithas eleni. Mae'r awyrgylch yn un da ac yn gartre yn y nos i lot o gerddorion y ddinas.
3. Mynd i Marcellos. Yn , gyferbyn â'r castell. Bwyd Eidaleg anhygoel.
4. Mynd i . Lle anhygoel gyda lot o fwyd rhad a da, a siop recordiau ail law Kelly's lan lofft. O, a lot o anifeiliaid mewn caetsys lan lofft hefyd. Ewch mewn drwy fynedfa Heol y Santes Fair neu'r Ais.
5. Marchnad Jacobs. Dim bwyd fan hyn, . Lot fawr o bethau ail-law, o ddillad i lamps i records a llyfre comics.