Barn Richard Rees ar Sesiwn Fawr Dolgellau
Hir yw pob aros ond roedd hi werth aros pob munud i glywed Endaf Emlyn yn Sesiwn Fawr Dolgellau. Er ei fod e heb berfformio ers ugain mlynedd a mwy, roedd y caneuon a'r cerddorion yn gwneud i'r set swnio mor ffres ag erioed, gyda'r dechnoleg diweddara yn ychwanegu rhyw gryfder newydd i nifer o'r caneuon.
Ond roedd Endaf yn serennu ymhlith nifer o artistiad eraill ar lwyfannau'r ŵyl. Wnaeth Derwyddon Dr Gonzo argraff mawr gyda set bywiog a lliwgar - er dwi ddim yn swir os oedd y ddwy ferch oedd gyda nhw yn canu ai peidio! Un arall o uchafbwyntiau'r ŵyl i fi oedd y Sibrydion - rwy'n dipyn o ffan beth bynnag, ond mae'r grwp yma'n mynd o nerth i nerth. Perfformiad bywiog iawn hefyd gan Celt, gyda'r dorf yn ymateb yn wych.
Un person do'n i ddim yn gydarwydd â hi cyn i mi ddod i Ddolgellau - ond mi fyddai'n saff o chwilio am ei CDs hi ar ôl cyrraedd adre - oedd Lisa Mills, cantores o Mississippi. Ges i'r pleser o'i chyflwyno ar y llwyfan - roedd hi'n ferch hyfryd iawn, gyda llais anhygoel a chaneuon cofaiadwy dros ben. I orffen y noson wrth gwrs roedd set y Saw Doctors yn wych, yn enwedig o ystyried eu bod nhw wedi teithio i Ddolgellau o Stornoway yn yr Alban dros nos!
Dwi di cael amser wrth fy modd yn Sesiwn Fawr Dolgellau 2008... a 2009? Ie - bydda'i nôl!