Gwefr The Peth
Reit, da chi'n barod i i fynd am dro drwy atgofion Lisa Gwilym o'i noson yn neuadd Hercules, Portmeirion nos Fercher?
Dychmygwch neuadd eitha bach hefo ryw 200 o bobol fel sardines y tu mewn. Deg cerddor o'n blaena ni - dim ar lwyfan, just o'n blaena ni. Pob un yn gwisgo 'shades' ac yn edrych yn arbennig o cwl. Felly o'r chwith i'r dde, Guto Pryce o'r Super Furries, Osian o'r Sibrydion ar yr allweddella, Mei ei frawd ar y gitar, merch wedyn, ac wyddo chi be? dwi'n ymddiheuro, dwi ddim yn cofio ei enw hi ond mi oedd ganddi lais anhygoel. Wedyn Aaran Ahmun ar y drymie ac o'i flaen o, Rhys Ifans, oedd yn frontman charismatic tu hwnt. Daf Ieuan ar y gitar ac yn canu, Kris Jenkins yn y cefn yn chwarae hefo effeithiau sain. Scouse Mick a Dic Ben wedyn ar y tambourine, shakers a rhywbeth oedd yn edrych fel "My First Piano" gan Fisher Price, a dyne fo dwi'n meddwl. O, ac fe ddaeth Les Morrison ymlaen ar y diwedd i chwarae banjo. Felly dyne'r olygfa.
O ran sain wedyn, dwi di sôn am lais peraidd y ferch, oedd Rhys yn grêt, basslines cryf, lot o sŵn gitars, a harmonia da ar adega. O'n i'n poeni braidd ar y dechre gan fod na gymaint ohonyn nhw, ond i feddwl faint o aelode oedd na, ges i fy siomi ar yr ochr ore, ac mi oedd yna wefr yn perthyn i'r noson. Nes i wir joio! Mynnwch Peth o'r !
Lis
x
PS os da chi isho clywed os ydy Dyl Mei yn cytuno hefo fi, gwrandewch ar ei adolygiad o'r gig nos Lun am 11pm efo Daf Du.