Pwy sy yn y Sesiwn?
Fuon ni am dro bach o amgylch y Marian i weld pwy sy di cyrraedd y Sesiwn hyd yn hyn...
Mae Hefin Jos (TÅ· Newydd Sarn) yn edrych mlaen i weld Plant Duw, Steve Eaves a Cowbois Rhos Botwnnog ar y brif lwyfan - "roedden nhw'n wych llynedd". Mae'n falch bod tipyn o bobl di troi fyny neithiwr, "roedd Sibrydion yn wych a Huw Chiswell wedi delifyro".
Mae Geraint Løvgreen yma i lansio ei CD newydd heno yn Tŷ Siamas. Ar hyn o bryd mae wrth ei fodd efo Buena Risgah Social Club - "ddylen nhw fod yn chwarae heno, mae'n gerddoriaeth diwedd nos". Mae'n edrych mlaen i weld Steve Eaves ac Endaf Emlyn.
Mae Helen Bradley o Ddolgellau yn un o'r tîm enfawr sy'n gweithio tu ôl y bar. "Ond dwi'n cael gorffen am 6 o'r gloch a wedyn dwi'n mynd i fwynhau!"
Mae Sadie a George o Kent yn Lloegr ond mae ganddyn nhw deulu yn ardal Dolgellau felly wedi dod draw i weld sut hwyl sydd yn y Sesiwn. Maen nhw'n mwynhau hyd yma!
Mae Catrin a Shauna wedi dod lawr o Fangor bore ma ac wedi codi eu pabell yn barod. Dyw'r maes gwersylla ddim yn wael iawn o ystyried y tywydd medden nhw!
Meike, Thea, Amelie ac Ifor o Aberystwyth - yn gwylio dad yn perfformio gyda Lowri Evans
Bois Brigyn a ffrindiau - Endaf Emlyn fydd uchafbwynt y diwrnod iddyn nhw.