Sesiwn fel yr hen ddyddie
O'r diwedd, ma'r Sesiwn Fawr yn teimlo fel y Sesiwn dwi di fwynhau gymaint dros y blynyddoedd. Roedd llynedd yn gret, ond i fod yn onest fe amharodd y tywydd rywfaint ar yr hwyl, ac er fod na uchafbwyntia ddoe (Sibrydion yn hollol anhygol) dim ond pnawn ma dwi di dechra mwynhau fel yn 'yr hen ddyddie'.
Mi ddechreuodd yr haul ddod allan hefo'r Cowbois, a nes i wir fwynhau set nhw - Euron Jones ar y pedal steel a Gwyneth Glyn ar y gitar drydan a llais cefndir yn ychwanegu cymaint. Lot mwy o sŵn 'country' i'r set eleni na llynedd, ond gwych.
Wedyn fe ddaeth y Derwyddon, ac mi oedd y set yna yn un o fy hoff setia Sesiwn Fawr ERIOED. Ges i gymaint o hwyl, mi oedda nhw'n wych yn gerddorol, ond yn bwysicach byth, hefo'r haul ar y Marian, mi oedd na wên anferth ar wynebau pawb. Diolch byth amdanyn nhw.
Reit, da ni nol ar yr awyr am 8pm, hefo Derwyddon (wrth gwrs) yn exclusive i Radio Cymru, Endaf Emlyn, Celt a'r Saw Doctors. Gyda'r llaw, os da chi wedi bod yn gwrando ar y radio, neu ar y we, gadewch i ni wybod be da chi'n feddwl o'r rhaglenni a'r gerddoriaeth.