Sŵn a sbort y Sesiwn
Wel bois bach, dwi 'di blino'n barod, a mae mond yn hanner dydd ar y pnawn dydd sadwrn!
Dwi yma yn Nolgellau ers unarddeg bore ddoe, ac er gwaetha'r blincin glaw, mae'r awyrgylch mor groesawgar a gynnes ag arfer! A dwi'n barod, ac yn edrych mlaen at y marathon o gerddoriaeth fyw sy ar fin dechre yma ar y Marian.
Sibrydion yn sicr oedd uchafbwynt neithiwr i fi - mae nhw mor mor wych yn fyw, a dwi wrth fy modd efo'i swn nhw! Oedde ne sôn bod nhw am neud cân newydd, "Go! Go! Go!", ond nes i fethu'r gân yne yn anffodus. Ma nhw di dechre recordio stwff newydd, felly gobeithio gawn ni fwy o sain spesial y Sibrydion yn fuan iawn. A jyst un pwynt bach arall gen i, pryd mae'r band anhygoel yma yn mynd i gael y cyfle i hedleinio?
Reit, gorfod mynd! Dwi ar yr awyr mewn munud efo Daf Du a Richard Rees, felly edrych mlaen i roi'r byd yn ei le efo nhw, cyn mynd i ail-ymuno efo'r criw teledu. O ran cerddoriaeth heddiw, Cowbois Rhos Botwnnog, Derwyddon Dr Gonzo ac Endaf Emlyn fydd yr uchafbwyntie i mi! Hwre! Orie o gerddoriaeth fyw gore Cymru yma yn Nolgelle. Joiwch y Sesiwn - dwi yn!!
Lis xx
Fi'n blogio o gaban moethus C2