Mae'n bwrw glaw, so dal fy llaw... la di la di la
P'nawn da o iglwww c2/mosgito/ffeil ar faes y steddfod,
Fel ellwch chi ddyfalu o deitl fy mlog - mae'n bwrw glaw. Yn sobor iawn. Ond mae'n bell o fod yn bnawn anghynes ar y maes. Ma rhywbeth am y ffaith bo hi'n bwrw glaw yn y steddfod, yn neud i bobol fod yn fwy parod i siarad â'i gilydd ("Ooo - ma'r tywydd 'ma'n ofnadw nagyw e?"), yn fwy positif ("Mae'n mynd i fod yn braf ddiwedd yr wythnos. Boiling!"), ac yn fwy swnllyd! Wir! Ma lot mwy o swn ar y maes pan mae'n bwrw glaw. ("aaahhh - fi newydd gamu mewn pwll o ddwr!")
Ond yr hyn dwi'n trio gyfleu yw does dim ots sut ma'r tywydd - ma wastad rhywbeth i'w neud a rhywun i'w weld ar y maes.
A chofiwch ma be ma pobol yn wisgo yn y glaw yn ddiddorol iawn. Dyma pwy fi di gweld - a be ma nhw di gwisgo rhwng p'nawn ddoe a heddi.
- Daf Du (trowsus combat brown gole a chrys glas gole)
- Hywel Gwynfryn (crys llewys byr a throwsus)
- Huw Evans (blazer glas tywyll gyda bathodynne, jins sgini tywyll ac esgidiau gwyn)
- Guto Brychan, sy'n trefnu gigs Maes B (crys t Gwyl Swn a jins)
- Jeni Lyn (fest gwyn, cardigan las a jins neis iawn)
- Swci Boscawen (crys a leggins du - a'i cholur a'i gwallt yn edrych yn ffantastic fel arfer)
- Osi Sibrydion (crys, jins a chôt ledr)
- Mei Sibrydion (crys, jins a top adidas)
- Huw Stephens (crys glas a gwyn, jins a daps adidas)
Felly, dyna sut ma'r ffasiwn yn edrych ar y maes - ac ym maes B hyd yma. Jins a daps adidas yw'r pethe mwya poblogaidd hyd yma. Ond gall bobeth newid erbyn diwedd yr wythnos.
Fi? Fi'n gwisgo siorts, bwts a chrys t Steddfod Abergwaun 1986. Y crys t yma oedd hoff un Grav arnai (mae'n goch - fel y sgarlets!) a chan gofio am y cyngerdd sy'n cael ei gynnal heno i gofio'r gwr bonheddig o Fynydd y Garreg - dwi'n gwisgo'r crys â blachder heddi.
xxx