Mmmm.. ie... hilariws...
Hia chi's,
Fi'n sgwennu hwn yn hwyrach na'r arfer achos fi a Glyn di bod yn sioe lwyfan Stwffio. Lot o hwyl. A lot o anibendod! Nethon nhw ofyn i ddau fachgen o'r gynulleidfa addurno cacen - ond be o fi a Glyn ddim yn gwbod oedd - ma'r cacen oedd... fi a Glyn! Hufen, jam a losin yn y gwallt - a hynny cyn y custard pie yn y wyneb. Fi di golchi fy ngwallt mean bwced o ddwr oer. Ond fi dal yn drewi o hufen, cwstard a phwdin reis. Grim.
Ta waeth - ma f'ymgyrch ffasiwn eisteddfodol yn parhau. Nath Huw Stephens weud neithiwr bo fi fel Trinny a Suzzana C2. Sa well da fi feddwl a fi yw Mica Paris/Lisa Butcher C2. Ma nhw lot mwy neis.
Co ni off de
- Gruff Rhys (cot anferth, het a jins)
- Gwyneth Glyn (ffrog hir flodeuog , cot denim a bwt cowboi)
- Glyn Wise (jins, crys a siwmper)
- Ian Cottrell (crys t Smiths - vintage a jins glas)
- Hefin Ty Newydd Sarn (crys t Ty Newydd Sarn a cords gole)
- Gruff Lynch yr Ods (crys t, cardigan a jins)
- Daf Du (jins tywyll, a chrys gole a bwts neis. DIM WELIS!)
- Alun ac Anthony Planed Plant (cryse t Stwffio a jins)
- Alex Jones (ffrog lwyd neis iawn gyda bow)
- Huw Stephens - yn stwidio c2 neithiwr (crys t streips a jins)
- Jams Tomos (siwt cream fel y dyn o del monte)
- Osi Sibrydion (jins, crys a hat neis iawn)
- Mei Sibrysion (crys t, jins a blazer gole)
Gyda llaw, nath Huw S ware trac newydd gan y Sibydion neithiwr ar c2. ANHYGOEL. Rili rili dda.
Reit fi'n mynd nawr achos ma arogl hufen/cwstard/pwdin reis yn dechre troi arnai
Welai chi fory!
xxxxx