Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwella C2

Gareth Iwan | 09:56, Dydd Llun, 1 Rhagfyr 2008

Helo bobol
Falle mod i'n cymryd risg yn gofyn hyn ond... beth fydda chi'n ei newid ar C2? Be' da chi'n ei fwynhau, a be' fysa chi'n ei wella? Unrhywbeth da ni ddim yn ei wneud yr hoffech chi glywed ar C2? Mae ganddom ni gyfarfod bach fory yng Nghaerdydd i drafod hynny ymysg petha eraill, felly gadewch ei sylwadau (adeiladol plis!!!) yn fama
Diolch
Gar

ps cofiwch am sesiwn heno am 10pm hefo Huw Stephens

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:30 ar 1 Rhagfyr 2008, Rob ysgrifennodd:

    Mwy o'r llais hyfryd Lisa. Mwy, mwy, mwy!

  • 2. Am 15:42 ar 1 Rhagfyr 2008, Rhodri ysgrifennodd:

    Mwy o holi be ma pobol isio.

    Da iawn am roi eich hun allan na gyda'r blog ma, ond ddyliech chi ddim ei weld o fel rhywbeth "risgi". Ni, y talwyr ffi drwydded, sy'n talu am y gwasanaeth felly mewn ffordd dyliech chi holi ni'n amlach be da ni isio, mewn gymaint o wahanol ffyrdd ag sy'n bosib. Mae'r we yn galluogi chi i ddod yn agosach atom ni a a ninnau atoch chithau, sy'n beth da.

    Mae gen i awgrym...

    Beth am orsaf a thonfedd gyfangwbl ar wahan ar gyfer C2? Wnewch chi addo trafod hwnna yn y cyfarfod?

    Sa hwnna'n ddechra da :)

  • 3. Am 17:21 ar 1 Rhagfyr 2008, Gareth Iwan Author Profile Page ysgrifennodd:

    Diolch am y neges. Ia, ella fod 'risgi' yn air braidd yn anffodus. Ta waeth, dwi'n gwybod fod syniadau i ymestyn/datblygu gwasnaeth C2 ar yr agenda fory (yng nghyd-destyn y we yn benodol, dwi'n meddwl) felly bydd cyfle i grybwyll dy gwestiwn. A diolch am ddarllen y blog!

  • 4. Am 01:02 ar 2 Rhagfyr 2008, Gwilym ysgrifennodd:

    Blaimi! Ydach chi'n siwr eich bod chi isho'r rant i gyd? Os fyse chi'n gofyn yn ymlach 'sa gin i llai i ddeud pob tro yn pendraw . . .

    Dwi'n cytuno'n llwyr hefo beth ddudodd Rhodri, dim byd o'i le o gwbl hefo gofyn am farn, yn enwedig i grwpiau bach nawr ac yn y man.

    Hefyd, mae'n amhosib i Radio Cymru ddarparu gwasanaeth ar gyfer cenedl gyfan gydag un orsaf, mae'r wahaniaeth mewn genres yn creu brand reit scitsophrenic, ac mae hynny'n beth dryslyd a diflas i wrandawyr sydd isho gwrando'n gyson.

    Bydd hefyd yn golygu na fydd gorfod anwybyddu genres y byddai mor naturiol i C2 gyfro: does dim digon o gerddoriaeth werin / byd / arbrofol na dawns arbennigol. Byddai llwyth o "gerdd-garwyr" yn barod i roi'r rhagleni 'ma at ei gilydd; gyda chydig o arweiniad gan gynhyrchydd (1 swydd ychwanegol); a hynny jest er mwyn y bleser o wneud! Hyd yn oed tase'r wasanaeth jest ar y we, sa'n gychwyn.

    Pam nad ydach ci'n cefnogi ac yn rhoi llwyfan i Radio Amgen er enghraifft? Mae 'na gant a mil o DJs allan yna, a rhai ohonyn nhw llawn cystal a Stephan Cravos.

    Tase chi'n llenwi'r 4 awr 'na pan mae Radio Cymru "off-air" ganol nos sa'n gychwyn; o leia fyse'r rhagleni ar gael wedyn fel podlediadau i'r rheiny nad oedd fyny drwy nos yn gyrnio.

    Mae angen llai o gerddoriaeth pop Saesneg hefyd. Fedra i ddeall ychydig, dudwch 1 mewn 10, ond mae'r rhaniad rhy uchel o lawer ar hyn o bryd. Tase Radio Wales yn chwarae stwff iaith Gymraeg fyse na ddim dadl, ond tra mae'r Ö÷²¥´óÐã yn parhau i wthio cerddoriaeth Gymraeg i lawr un sianel, tydi o jest ddim yn deg, nac yn gwasanaethu'r diwylliant. Mae normaleiddio cerddoriaeth Gymraeg mewn cyd-destun o gerddoriaeth poblogaidd ehangach yn bwysig, ond does bosib cyflawni hyn i gyd ar un orsaf.

    Dw i'n credu y dyle chi dalu mwy o sylw i'r cymeriadau rydach chi'n defnyddio fel cyflwynwyr. Mae'r rhai gorau i gyd yn gallu mynegi barn gall a difyr ar rhywbeth, a hynny heb drio bron. Peth gwaethaf fedrith neb wneud ydi trio meddwl fod 'na rhyw fath o hiwmor arbennig i bobl ifanc. Mae PAWB yn mwynhau pobl sy'n siarad yn NATURIOL. Heb enwi enwau, mae gyno chi tua 4, ella 5, cyflwynydd da. Mae'r gweddill yn tueddu i swnio braidd yn annaturiol a "forced."

    Os nad ydi'r cyflwynydd yn ddiddorol fel unigolyn, fydde nhw byth yn ddiddorol fel cyflwynwyr; sdim bwys pa mor hir fedran nhw siarad heb faglu na rhegi. A does dim wmbrath o baratoi a 'creu' testunau trafod gan gynhyrchwyr yn mynd i neud nhw swnio'n ddiddorol. O be wn i, mae gan y cyflwynwyr gorau i gyd chydig o brofiad bywyd, ac yn tueddu i fod yn bwyllog ac yn chwareus ar yr un adeg. Yn gyffredinol, rydach chi angen treulio llawer hirach yn trio cyflwynwyr gwahanol allan cyn eu rhoi nhw ar yr awyr. Gofynwch i ni! Mae 'na ddigon o bobl da allan yna, ond i chi ei ffindio nhw a meithrin y talent. Mae'n bosib bod yn rhyfedd, yn ddiddorol, yn heriol ac yn naturiol i gyd heb orfod swnio fel plentyn 12 mlwydd oed. The kids aint fooled.

    Digon am rwan dwi'n siwr, ond fyswn i'n gallu mynd mlaen am dipyn eto.

  • 5. Am 15:42 ar 3 Rhagfyr 2008, Geraint ysgrifennodd:

    Ti'n gwbod be sy'n y nghorddi i ar y funud, felly ddeuda'i ddim mwy am hynny! Ond mae'n dda gwybod fod yna ambell un yn codi'i lais yn y diffeithwch.
    Ar y cyfan dwi'n cytuno efo sylwadau Gwilym uchod.
    Dylai C2 beidio trin y gynulleidfa fel un 'mass' unffurf sy'n rhannu'r un chwaeth gerddorol â'r ymchwilwyr sydd efallai ddim ond yn meddwl eu bod yn gwybod be sy'n 'cool'.

  • 6. Am 12:18 ar 4 Rhagfyr 2008, Gareth Iwan Author Profile Page ysgrifennodd:

    Diolch i chi gyd am roi sylw. Fe wnai edrych yn ol yn wythnosol am sylwadau, felly os da chi heb wneud eto, croeso i chi wneud. Fe gafwyd cyfarfod difyr iawn yng Nghaerdydd, lot o syniadau diddorol, ac fe godais rai o'r pwyntiau o fama yn y cyfarfod. Fe sonia i fwy am ein cynlluniau yn y blog dros yr wythnosa nesa.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.