Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tata Frizbee...

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gareth Iwan | 09:48, Dydd Iau, 11 Rhagfyr 2008

..wel, am y tro.
Dwi'n drist iawn am ymadawiad yr hogia, am ddau reswm. Y rheswm cyntaf ydy fod 'headliners' Cymraeg yn mynd yn fwy a mwy prin. Heb y Genod Droog a Frizbee, pwy all trefnwyr gigs droi atyn nhw i lenwi gig fawr neu wyl? Pwy alla i a ffonio yn y gobaith o ychwanegu chydig filoedd o wrandawyr/gwylwyr? Bryn Fon, Sibrydion, Gwibdaith, falle Cowbois? Radio Lux, Euros Childs? Derwyddon hefo dipyn o lwc yn 2009? Mae angen grwpiau poblogaidd arnom ni, ac mi fydd hi'n anoddach ar drefnwyr gwylia heb Genod Droog a Frizbee. Dyna ddiwedd hefyd ar un o'r ychydig grwpiau llawn amser Cymraeg...

Mae'r ail reswm yn fwy personol. Dwi wedi gweithio lot hefo hogia Frizbee dros y 5 mlynedd dwetha, ac yn ddi-ffael, mae nhw wedi bod yn gyfeillgar, hoffus a chwbl broffesiynol. Mae nhw wedi gwneud tri sesiwn i raglen Lisa, ac yn ol yn 2004 roedda nhw'n gefnogol iawn i'r rhaglen pan nad oedd pawb, ac mi ydw i'n ddiolchgar iawn am hynny.

Efallai na wnaeth Frizbee gyrraedd uchelfanau amrywiol cerddorol eu arwyr , ond mi oedd Frizbee yn grwp roc gret - ac mi fydd y sin yn dlotach hebddyn nhw.

Gewch chi wrando ar sesiynau Frizbee o 2006 ac o 2008 a gweld os da chi'n cytuno. Fel arfer, plis gadewch sylwadau, ac os da chi isho gyrru neges i Frizbee, fe wna i'n siwr fod yr hogia'n ei dderbyn.

DIWEDDARIAD: Bydd Frizbee hefo Lisa am awr nos Iau 18/12/08 yn edrych yn ol ar eu cyfnod yn gigio a recordio

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:46 ar 11 Rhagfyr 2008, Gareth o'r Treffynnon ysgrifennodd:

    Heia Gareth,
    Mae'r ymadawiad Frizbee o'r sin mwy neu llai yn symio fynny 2008 yn gerddoriaeth Cymraeg i fi - o'r beth ni'n wedi gweled, dio'n ddim yn syndod fi os does na fod fwy o gwrpiau a perfformwyr yn gadael na cychwyn allan. Dwi'n meddwl newn ni weld math o 'resurgance' flwyddyn nesaf ond mae un peth yn sicr - alle ni ddim beio yr ymadawiadau ar yr crunch credyd!

    Lwc gwell yn 2009!

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.