Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Blwyddyn newydd, a lot o fandiau newydd!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Robin Owain Jones Robin Owain Jones | 16:14, Dydd Mercher, 7 Ionawr 2009

Helo bawb!

Blwyddyn newydd dda, llond y ty o ffa - blwyddyn newydd ddrwg, llond y ty o fwg... a'i dyna'r dywediad cywir? On i'n siarad am hyn efo Magi ar y rhaglen neithiwr - pam fod cael llond ty o ffa yn flwyddyn newydd dda? Mi faswn i'n casau cael llond ty o ffa - cael dan draed a mewn i bob twll a chornel, a mi faswn i'n eu ffeindio am flynyddoedd wedyn wedi eu stwffio lawr gefn y soffa a ballu!

P'run bynnag, mae 2009 yn argoeli i fod yn flwyddyn wych arall o fandiau newydd cyffrous yma yng Nghymru. Artist Gwyliwch y Gofod cyntaf 2009 oedd Mark Back - canwr-gyfansoddwr ifanc o Gaernarfon, sydd a chaneuon acwstig neis ar ei broffeil myspace. Ewch i adran Gwyliwch y Gofod i ddarganfod mwy!

Na'i ddim dweud gormod, ond mi alla'i addo bod bandiau newydd gwych ar y ffordd dros yr wythnosau nesaf - dwi'n edrych ymlaen yn arbennig i roi sylw i gerddor sy'n byw yn Llundain ar hyn o bryd, ond yn dal i gyfansoddi a recordio caneuon Cymraeg - stwff da iawn.

Dyna ni am y tro, ond cofiwch - os yda chi mewn band newydd sy'n awyddus i gael sylw yn y slot Gwyliwch y Gofod yna cysylltwch a ni trwy e-bostio c2@bbc.co.uk.

Hwyl,

Robin


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:11 ar 8 Ionawr 2009, Prysor ysgrifennodd:

    Pob parch Robin, ond pam yr holl ddirgelwch??? Be di'r pwynt? Os oes 'na fandiau da allan yna, pam ti ddim isio deud eu henwau nhw? Ydyn nhw'n egscliwsif i C2 neu rywbeth? Ydyn nhw wedi rhoi embargo ar unrhyw un son amdanyn nhw cyn rhyw ddyddiad arbennig? Ydyn nhw'n swil? Ydyn nhw'n gerddorion sy'n cynnwys smyglwyr cyffuriau rhyngwladol ac aelodau Al Caida? Ydi C2 ofn i wrandawyr glywed eu stwff nhw cyn i C2 ei chwarae?
    "Dim dweud gormod" wir! Ti'n meddwl fydd neb wedi clywed nhw os ydyn nhw'n fandiau mor dda?
    Cym on! Os oes bandiau da allan 'na, wel, mae nhw allan yna! Si? Ac mae ganddyn nhw enwau, a mae nhw'n haeddu i bobol gael eu cyfeirio atyn nhw i wrando arnyn nhw!
    Ac os ti isio i bobol wrando ar y rhaglen, heipia nhw i fyny rwan, a creu diddordeb, fel bod bobol YN dod i wrando ar dy raglen pan fyddi di'n chwrae eu stwff nhw!
    Anhygoel!
    (blwyddyn newydd dda, gyda llaw!)

  • 2. Am 17:41 ar 13 Ionawr 2009, Robin ysgrifennodd:

    Diolch am dy sylwadau Prysor.

    Does dim dirgelwch, swildod, na embargo yn gyfrifol am hyn, ond mae'n braf gallu rhoi sylw i rai o'r bandiau yma am y tro cyntaf yn y slot, a chyflwyno bandiau cwbwl newydd i'r gwrandawyr.

    Ychydig o fanylion i chdi am artist Gwyliwch y Gofod wythnos nesa:

    Mae'n ganwr-gyfansoddwr unigol, ac er taw ond un gan Gymraeg sydd fyny ar ei dudalen myspace ar y funud, mae'n dweud fod digon yn bodoli. Mae wedi cefnogi Richard James a Tecwyn Ifan yn y Cwps yn Aber yn y gorffennol.

    Bydd y cwbwl yn cael ei ddatgelu ar C2 rhwng 8-10pm nos Fawrth nesaf (20fed Ionawr).

    Yn y cyfamser, Blwyddyn Newydd Dda - gobeithio bo chdi a phawb acw yn cadw'n iawn - siarad yn fuan.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.