Gyrru 'demos' at raglen Lisa
Blwyddyn newydd dda bobol!
Diwrnod cynta nol yn y gwaith, a'r peth cynta dwi angen ei wneud ydy gweld pwy sydd wedi bod yn gwneud be dros y gwylia - oes na unrhyw fandia wedi bod yn recordio, trefnu gigs neu unrhywbeth arall difyr. Dwi di gyrru ebost i ryw ddwsin o fandiau, felly gawn ni weld be ddaw yn ol...
Dwi hefyd yn awyddus iawn i glywed gan fandiau newydd, felly os da chi mewn grwp o unrhyw fath, bysa'n gret cael unrhyw draciau newydd. Mi fedrwch chi yrru mp3 ata i ar ebost neu yrru CD at Gareth Iwan Jones, Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru, Bryn Meirion, Bangor, LL57 2BY. Dwi hefyd ar
Felly gyrrwch eich caneuon asap!!!
Ar raglen Lisa nos Iau, dwi'n trio trefnu sgwrs am sy'n digwydd nos Wener yn Galeri.
Cofion
Gar