Shafio yn llwyddiant...
Shwmae pawb, wi'n teimlo yn smug iawn ar hyn o bryd (smugach nag arfer 'se rhai yn dweud, a pan wi'n gweud 'rhai' wi'n meddwl 'pawb'.) Pam? Achos dwi wedi llwyddo cadw at fy adduned blwyddyn newydd. Dros y dolig edryches i ar fy hun yn y drych a gweld boi byr gyda stubble bler, bol cwrw, a smokers cough. Odd angen tro ar fyd. Edryches i i fyw fy llygaid, ac addo i fy hun mod i am shafio mwy. Dwi nawr wedi bod yn hollol lan ers ionawr y cynta. Rhywun sydd ddim yn lan, ond yn wir yn fudr tu hwnt yw Marc Real, a hir oes i hynny. Fydd e ar fy rhaglen nos Fercher yn tynnu flewyn o drwyn. Y gobaith yw y bydd bach o snot a mymryn o waed ar ben y blewyn, gan taw rhain yw'r rhai sy'n sgorio ucha mewn cystadleuaethau pigo trwyn. Ma'n anodd disgrifio rhaglen nos fercher yma, achos dyw e heb ddigwydd eto, a sa'i moen addo unrhwybeth o flaen llaw. Ond fedra'i eich sicrhau o un peth. Mi fydda'i wedi shafio.
hwyl
Daniel Glyn
SylwadauAnfon sylw
Blog gwych Daniel - rhannau ohono ychydig yn ffiaidd, ond gwych!
Braf cael blog diddorol fel hyn o bryd i'w gilydd - dechrau syrffedu ar rai o'r blogs hynod o ddiflas sydd wedi bod yn ddiweddar.
Edrych ymlaen i glywed y rhaglen nos Fercher gyda Mark Real, ond diolch i'r drefn taw rhaglen radio yw hi nid un teledu - faswn i ddim eisiau gorfod eich gweld chi eich dau gyda blew trwyn snoti eich gilydd, dim hyd yn oed amser yna o'r nos!