Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

'Sori Nia, ti jyst ddim yn gweddu'r fformat!'

Nia Medi Nia Medi | 16:46, Dydd Iau, 22 Ionawr 2009

Shwmae? Wel dyma fi yn fy nhrydedd wythnos yn cyflwyno C2 ar ol y noson gyntaf o'n i'n siwr y bydden i'n cael yr un profiad a Kelly Brook yn Britiain's got talent', gyda tim cynhyrchu C2 yn dwued 'sori Nia, ti jyst ddim yn gweddu'r fformat!'.

Ond, dwi dal yma ac yn mwynhau mas draw, yn darganfod cerddoriaeth a gwesteion newydd diddorol, a chofio peidio rhegi ar yr awyr...

Dwi wedi dechre ffeindio fy ffordd rownd adeilad Ö÷²¥´óÐã yn llandaf erbyn hyn, i ddechrau nes i fynd ar goll yn llwyr, mynd lan a lawr gwahanol liffts, bron a cherdded mewn a thorri ar draws rhaglen Chris Needs a stymblo ar set Pobl Y Cwm.

Fe ofynodd y Cynhyrchydd i fi sgwennu Blog tua wythnos yn ol, a dyma fi o'r diwedd yn eistedd lawr i neud achos fi'n hollol 'pumped up' ar ol neidio ambyty'r lle fel ffwl yn neud 'Pump it up Minsistry of Sound Work Out DVD' a hyn ar orchymyn fy chwaer ar ol iddi hi bwyntio allan mod i'n edrych fel Twba ar ol Nadolig! Ges i ofn ar un adeg mod i'n mynd i syrthio drwy to y lolfa tra'n neud yr ymarfer yn fy 'stafell wely, ond roedd y llawr yn solid chware teg.

Ydy, mae wedi bod yn 3 wythnos gret hyd yn hyn, gyda gwesteion gwych fel Ed Holden i ddechrau (gynt o Pep Le Pew a Genod Droog) wnaeth rhoi gwers Bit bocsio i fi ar yr awyr. Ac er roedd fy nghais i i wneud swn 'Snare drum' gyda fy ngheg yn swno mwy fel rhech mewn bath, roedd Ed yn neis iawn am y peth chware teg! Mae ei EP e fel artist unigol allan yn fuan 'Mor o Miwsig' ac ma' pob swn ar yr EP yn dod o'i geg. Mae e mor dda, o'n i rili yn meddwl fod e'n dweud celwydd...ond dyw e ddim.

Cwpwl o fands hollol gwych a newydd dwi wedi bod yn chwarae ar yr awyr hefyd yw Kiddo 360 a Peggy Reloades. Band Hip Hop-funk-fusion o Abertawe yw Kiddo 360, wnaeth ennill gwobr cerddoriaeth byw Vodafone llynedd gyda bandie fel Take That, Primal Scream a'r Pussy Cat Dolls hefyd yn enillwyr gwyliwch y gofod achos dwi'n meddwl y byddan nhw yn y siartiau Prydeinig o fewn y flwyddyn nesaf. Allwch chi glywed 'i stwff nhw ar ac ma'r Trac 'Inside Smiling' yn bownd ogael chi ddanso a chanu'r gytgan ar ol y gwrandawiad cyntaf.

Band arall sydd wedi gwneud argraff enfawr yw 'Peggy Reloades' o ardal Rhydaman. Band Rock eitha' trwm yw'r band yma ond sydd hefyd yn gwneud defnydd o samplau electroneg a chynhyrchu'r math o ganeuon a swn sy'n haeddu arena llawn o miloedd o bobl yn gwrando. Ma'r trac 'Hypnosis' yn cymryd sample o gan 'Sugababes', 'Too Lost' ac ma'r canlyniad yn un fyddde chi fyth yn disgwyl, a chi bownd o gael eich swyno ganddo. Ei myspace nhw yw ewch yno a rhowch wbod be' chi'n feddwl!

Oherwydd fod gen i duedd i garu cerddoriaeth dawns, ma canwr y band Peggy Reloades (o'r enw Twig, sydd yn digwydd bod yn gynhyrchydd gwych hefyd) wedi cael y dasg gen i i ail-gymysgu caneuon adnabyddus cymraeg ar gyfer rhaglen arbennig fydd yn canolbwyntio ar gerddoriaeth wedi ei ail-gymysgu. Felly cofiwch wrando ar Nos Iau Chwefror 5ed i glywed y remixes yma am y tro cyntaf ar donfeydd radio -ffili aros am y rhaglen!

Dwi hefyd wedi cael fy ngwahodd i sesiwn C2 na, nid sesiwn ganu na recordio, ond trip i Lundain gyda chriw C2 ddiwedd mis Chwefror i wyl Swn Huw Stephens yn yr ICA. Felly mae'n well i fi fynd nol i'r hen 'Pump it up' nawr, er mwyn i'r caloriau ddiflanu a gwneud lle i'r holl lager fyddai'n fownd o yfed ar y penwythnos honno!

Diolch am ddrallen, diolch am wrando...

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.