Eira Eira ym mhobman...
Helo. Gan obeithio eich bod wedi cael cysgod o'r eira. Mae Caerdydd yn llawer pertach pan mae eira drosto i gyd. Nath yr eira neud fi feddwl am;
Yr Eira Mawr - albym hyfryd Gai Toms gyda'r clawr gwych yne o Gai gyda'i wyneb wedi ei orchuddio mewn eira.
Gwaed ar yr Eira Gwyn - Can Tecwyn Ifan, y gwr gyda mwstash gwych nes i weld ar nid yn unig Nodyn ond hefyd Dechrau Canu Dechrau Canoml yn ddiweddar. Mae Alun Tan Lan yn neud fersiwn hyfryd o hon hefyd.
Cacan Wy Experience - "Pan ti'n ****o'n yr eira, neud o'n wyrdd'. Un o'r llinellau yne sy'n sticio yn eich meddwl.
Swci Boscawen - Eira Gwyn.
Nes i feddwl am rhein i gyd, ac am Snow Patrol. Ac am bobl o'r enw Eira. Enw da.
SylwadauAnfon sylw
Du ydi'r Eira gan Gwyneth Glyn, wrth gwrs!
Rob