Sengl Newydd Yr Ods
Nos Lun ar C2, ges i'r fraint o chware sengl newydd Yr Ods. Sy'n blwmin' brilliant. Fi di bod yn ffan o'r band yma ers i ni roi sylw iddyn nhw yn ein slot Gwyliwch y Gofod ar C2, ond pan nes i weld nhw'n chware'n fyw yn y Ddawns Rhyng-Gol yn Aber ddwy flynedd yn ôl, o ni'n gwbod bo fi'n gwylio ac yn gwrando ar fand arbennig iawn. Felly ro'ni mor chuffed i ware'r sengl am y tro cynta' ar C2 ddechre'r wythnos.
Cyn chware'r caneuon ges i air gyda Griff Lynch a Gruff Pritchard o'r band, (ma'r ddau ohonyn nhw yn blwmin' lyfli hefyd). Nath y Gruffs son gymaint nethon nhw fwynhau recordio'r sengl yn Stiwdio Aeriel ym Mrechfa dan gynhyrchiad Tim Lewis a'r gobaith yw, gewn ni albym gan y band cyn diwedd y flwyddyn. Fi fydd gynta yn y ciw i'w phrynu.
Mae'r sengl newydd, yn cynnwys dwy gân - Fel Hyn am Byth a Ffordd Ti'n Troi Dy Lygaid ac mi fydd ar gael yn ddigidol o Itunes o'r 16eg o Chwefror. Lawrlwythwch y ddwy - newch chi ddim difaru.
Magi x