Ffan newydd Glyn Wise!
Nes i gyfarfod Glyn Wise am y tro cyntaf ar y ffordd i Lundain gyda chriw C2, ac ers hynny ma' gen i 'soft spot' mawr amdano fe - y person mwyaf naturiol o ddoniol a diffuant dwi wedi cyfarfod ers sbel. Ma'r boi yn legend llwyr a ges i'n atgoffa o pam wnaeth e gyrraedd y brig yn Big Brother 7. Mae e dal yn cael ei 'mobio' gan bobl rownd llundain - doniol oedd gweld 3 merch bron a mynd yn hysterical i weld e ar y tube, gyda Glyn yn dawel ac yn cymryd e'i gyd yn ei stride - ond ei lygaid direidus yn caru pob eiliad! A pam lai: Nid pob person sy'n gallu dweud i nhw serennu yn un o gyfresu mwyaf poblogaidd y byd, ennill cefnogaeth a phleidlais miliynoedd o bobl, dod yn enwog dros nos, a'r cyfan cyn iddo fe gyrrraedd 20ain mlwydd oed! Ma' Glyn yn gallu cael bad press, ac yn rhyfedd iawn, Cymry Cymraeg ei wlad ei hun sy'n rhoi hyn iddo, er iddo ddod a'r iaith Gymraeg yn fyw ac at sylw miloedd o bobl ar Sianel Rhyngwladol a gwasg byd-eang. Fi wastad yn edrych mlaen at ei rhaglen e a Magi - mae mor anodd bod yn naturiol a chi'ch hunan mewn awyrgylch artiffisial stiwdio, ond ma' Glyn (a Magi wrth gwrs!) yn gwneud hyn yn ddi ymdrech ac yn dybl act bril gyda'i gilydd. Fe enillodd e BB am fod e ddim yn ceisio bod yn unrhywun ond fe 'i hunan, ac mae e'n parhau i fod felna nawr. Does dim gair cas ganddo fe weud am neb ac mae ei agwedd at fywyd mor hyfryd o egniol, mae'n bleser fod yn ei gwmni fe a'i glywed e'n malu awyr ar yr awyr! felly os dwi byth allan o waith a ti angen bodygurad neu PR Glyn, ma' gen ti'n rhif i!!
SylwadauAnfon sylw
Nath Pete ennill BB7 nid Glyn!
Sylwgar iawn Ian... dwi'n siwr mai be oedd Nia yn trio ei ddweud oedd mai Glyn ddylsa fod wedi ennill. Ond fel mae o wastad yn ddeud, 'Does na ddim byd yn rong ar ddod yn ail' - neu rwbath fel yna.