Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llwybr Llundain!

Nia Medi Nia Medi | 11:29, Dydd Mercher, 4 Mawrth 2009

Wel wel am wythnos liwgar, diddorol a dadlenol! Da'th John a Kevs Llwybr Llaethog mewn i stiwdio nos Iau diwethaf a rantio fod gormod o gerddoriaeth acwstig a dim digon o electro yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru ar y foment, yn enwedig gan ferched - felly dwi am wneud ymbil i artistiaid mas na ar eu rhan nhw ac ar gyfer fy sioe i - rhowch eich hetie a sgidie electro ymlaen, does dim digon o stwff o'r genre gwych yma gen i i chware ar y rhaglen a bydden i'n caru chware bands/artistiaid newydd yn y maes yma - Ble mae'n Alison Goldfrapp a'n Róisín Murphy ni??
Roedd John a Kevs yn Lysh fel arfer a bril i ddargnafod pa mor wahanol mae'r ddau - blas hollol wahanol mewn cerddoriaeth a'r ddau yn dadle pwy oedd y chef gorau yn y ty! Felly fe wnes i bagio gwahoddiad i fynd draw i 'Gwesty Gedry' ryw noson yn fuan i adolygu'r bwyd! Ma albym newydd ar y ffordd hefyd o'r enw 'chwanag' gyda'r artistiaid arferol (Ed holden, Steffan Cravos, Cofi Bach etc) yn perfformio arno ond hefyd bydd Lleuwen Steffan a'r awdures Catrin Dafydd yn gwneud ei debut gyda'r band a fi methu aros i glywed yr albym! Cofiwch edrych mas ar wefan C2 i weld newyddion am yr albym newydd.
Ond ma'r ddau ma' nid yn unig yn gynhyrchwyr prysur ond hefyd yn guradon gwadd mewn arddangosfa gerddoriaeth newydd yn Sain Ffagan fydd yn agor yn Oriel 1 yn yr amgueddfa ar Awst 1af. Enw'r arddangosfa yw 'Pop Peth' ac os i chi am gyfrannu unrhyw eitemau cerddorol sy'n dewud ryw stori ddiddorol neu sydd jyst yn arbennig yn eich barn chi, yna rhowch showt i ni fan hyn yn C2 a wnawn ni rhoi chi mewn cysylltiad gyda Llwybr Llaethog. Am fwy o wybodaeth ewch i

Yna Nos Wener diwethaf daeth yr actores Mared Swain (carys Jenkins ar Pobl y Cwm ) mewn i'r stiwdio mewn storm o bits techno am mae hi oedd yn dewis y gerddoriaeth - ma chwaeth ffantastic gyda hi ac roedd yn rheswm brill i fi chware pethe fel Ben Folds, Killers, Hanner Pei ac wrth gwrs, lot o stwff techno hollol 'Bangin''! Na gyd o'dd angen o'dd cwpwl o glowsticks er mawr ddiflastod i Robin y cynhyrchydd - does dim chwaeth da fe o gwbwl!
Bu Mared yn son am ei gwaith hi gyda Cwmni theatr Dirty Protest neu Protest Fudur - dyma un o gwmniau theatr mwyaf cyffrous y wlad ar hyn o bryd. Pa gwmni arall chi'n nabod sydd yn dechrau ei nosweithiau gyda DJ yn chware stwff techno/electro/dawns tra bod chi'n cael cwpwl o beints, yna perfformiad theatrig o ryw awr gan awduron newydd ac actorion profiadol, ac yna parti mawr i gloi - a'r cyfan yn llai na phris peint! Felly os chi wedi diflasu ar dalu ffortiwn fach am docyn theatr ac eistedd trwy berfformiadau hirfaeth - dyma'r cwmni i chi!
Ma nhw hefyd yn edrych am awduron newydd i weithio ar brosiect datblygu sydd gyda nhw ar y funud, felly ewch i www.myspace.com/dirtyprotestnight am fwy o fanylion ac i glywed cerddoriaeth gwych lleol ma'r cwmni yn defnyddio.

Yna..fe gyrhaeddodd pnawn dydd gwener, yr awr fawr, lle am 2pm roedd tim c2 yn ymgynull yng ngorsaf drenau Caerdydd a gwneud ein ffordd i Lundain fawr ar gyfer Gig ICA gwyl swn Huw Stephens...ac o'n i'n gwbod bydde bywyd byth cweit yr un peth eto....

Er mwyn hwyluso'r daith fe wnaeth Owain Llyr baratoi cwis, a'r thema oedd 'Underground Llundain' ac o'dd y cwis yn rili rili RILI galed - fydde chi'n gwbod yn union faint o orsafoedd underground sydd yn Llundain neu pa linell yw'r hynaf yn y byd??? (Nes i drio googlo'r ateb ar fy ffon symudoll, ond na'th robin ddal fi)
Owain oedd y cwis feistr, ac ar ein tim ni oedd fi, Magi, Sian Alaw a Glyn Wise. Ar y tim arall oedd Huw, Robin a Sioned.Y tim arall enillodd, er roedd Sian yn brilliant ac mae'n rhaid dweud yr unig un oedd yn cynnig atebion hanner call ar ein tim ni. Ond...roedd Owain y cwis feistr yn biased llwyr am y tim arall - mae'n drueni nad Owain oedd dyfarnwr Cymru V Ffrainc nos wener - bydden ni'n sicr wedi ennill!

Ar ol cyrraedd Llundain a dympio'n stwff yn y gwesty dyma ni'n neud ein ffordd draw i gwrdd a BB Aled mewn bwyty gyfagos. Er bod BB yn gynhyrchydd ar rhaglen Chris Moyles ar Radio 1, mae'n rhaid fi weud mai 'Heels' Magi Dodd wnaeth yr argraff fwyaf arno fi - bydde unrhyw berson normal methu hyd yn oed cerdded ynddyn nhw, ond fe lwyddodd magi neud i fy ngen i syrthio i'r llawr wrth i fi weld hi'n rhedeg ar escalator ynddyn nhw!

Serch hynny, roedd cyfarfod BB Aled yn gret a da oedd gallu trafod Lady Ga Ga mewn manylder gyda fe a Magi!

Wedi cyrraedd y ICA roedd y gig wedi cychwyn ac roedd Derwyddon Dr Gonzo yn brilliant gyda set gyffrous oedd yn amlwg wedi paratoi yn graff - joio mas draw. Sibrydion yn gret hefyd, ond braidd yn fyr oedd y set yma - neu falle oedd Cymru wedi colli erbyn hynny a fi wedi colli pob gobaith!

Trip gwych, edrych mlaen at yr un nesa!


Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.