Gwyliau Pasg
Helo!
Mae o mor braf bod ar wyliau, amser i ddawnsio a partio heb y boen o ysgrifennu unrhyw draethawd! Dwi newydd ddal y tren o Birmingham nol i Gaerdydd yn barod ar gyfer fy sioe radio gyda Magi. Ac oh, mae gen i lot i ddweud!
Nos Sul diwethaf es i a fy ffrind Jamie i weld Michael McIntyre (a gwesteion) yn perfformio'n fyw yn Abertawe. Noson anhygoel, joc's gwych a llawer o selebs yn y gynulleidfa i Mr.McIntyre wneud hwyl arnynt. Gwelais Ruth Jones 'What's Acurring!', 10 aelod o Goldie Looking Chain yn eu shell-suits amryliw (fashiynol) ac aelodau o Casualty (y gyfres deledu nid ysbyty Caerdydd). Gwnaeth joc am y Cymry Cymraeg, yn ein galw yn hiliol drwy ysgrifennu slow-araf ar y llawr, gan ei fod wedi camddeall araf yn arab! Roedd joc ar ol joc am yr iaith Gymraeg ac yna gwaeddodd "Glyn, be ti'n astudio yn y brifysgol?" "Cymraeg!" gwaeddais, a roedd pawb yn chwerthin! Diwrnod gwych llawn chwerthin, oherwydd cyn mynd, es i weld 'the boat that rocked' yn y sinema, ffilm gomedi fuaswn yn argymell i bawb sy'n caru cerddoriaeth y 60au fynd i'w gweld!
Dydd Llun es i i Birmingham i weld fy ffrindiau o'r Brifysgol. Peth cyntaf a welais oedd dyn yn glychu ei hun ddwywaith yn y dafarn, lovely! Haha! Aethom i Drayton Manor, parc antur yn Telford oedd yn gyffroes iawn. Roedd pobl y parc yn gyfeillgar yn gadael i mi a fy ffrindiau basio'r rhesi aros, gyda llawer o bobl yn edrych arnom yn flin, hahaha!
Rwyn edrych ymlaen i fynd adref yfory i weld fy nheulu. Dwi'n dychryn bob tro dwi'n gweld fy nai Dylan sy'n 3 oed, gan ei fod yn dysgu mwy o eiraiu'n ddyddiol.
Pob tro rwy'n mynd adref mae ganddo rhywbeth newydd i ddweud, tro diwethaf gwaeddodd "na, no cheese!" pan o'n in ceisio tynnu ei lun gyda fy nghamera! Doniol iawn, ac yna gorfodi i mi eistedd yn yr ardd a darllen 'hanes 'Tomos y Tanc,' llyfr arbennig o gyffroes! Ugh!
Rwyn caru'r gwylia pasg! Hwyl am y tro,
Glyn xx