Does na ddim byd ymlaen...
Fel arfer, tua'r adeg yma mis Gorffennaf, mi fydda ni fel criw yn gorffen y paratoadau at Sesiwn Fawr Dolgellau. Pethau fel ffonio bandiau i gael "set-lists", gwneud running orders melltigedig o gymleth, siarad hefo Ywain Myfyr a'r trefnwyr am unrhyw newidiadau, gwneud nodiadau i'r cyflwynwyr - ac wrth gwrs cadw golwg ar y rhagolygon tywydd. Rhaid i mi gyfadde mod i'n hynod drist nad oes na Sesiwn eleni. Hon ydy'r wyl dwi'n fwynhau fwya - ma pawb mor gyfeillgar, mor groesawgar, ac mae gan y trefnwyr wir gariad at y gerddoriaeth. Gobeithio daw hi yn ol yn 2010.
Yn y cyfamser, mae yna ddisgwyl i rai pobol fynd i Ddolgellau beth bynnag!! Ac os ewch chi, mi fydd 'na gig hefo yn Ty Siamas rhwng 1pm a 5pm, ac wedyn , Cowbois, a'r yn y Clwb Rygbi o 5pm ymlaen. Enw'r digwyddiad ydy... "Does na ddim byd ymlaen ond ma' pawb yn dwad"!!!! Mi ddylwn i nodi fod Cowbois Rhos Botwnnog wedi chwara am ddim llynedd i geisio helpu'r wyl.
Mi ddyla ni hefyd roi "mensh" sydyn i CD newydd Celt, "". CD byw ydy hwn o'i set nhw yn Sesiwn Fawr y llynedd, ac mi fydd yr holl elw yn mynd i helpu'r Sesiwn Fawr.
Welai chi yno yn 2010, gobeithio.