Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyn Gwyrdd Hynod o Dda

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Huw Stephens Huw Stephens | 05:27, Dydd Mercher, 26 Awst 2009

blog_huw.jpg

Ar ol cwpl o flynyddoedd o law a cherddoriaeth wych roedd hi'n braf cael haul a cherddoriaeth wych yng Ngwyl y Dyn Gwyrdd eleni. Fel falle clywsoch chi ar raglen Aled nos Lun, roedd yr wyl eleni yn un hynod o lwyddiannus. Nes i fwynhau'n fawr. Roedd y maes wedi newid dipyn, a mae'r gwahaniaeth ma tywydd da yn neud i wyl yn enfawr. Roedd mwy o deuluoedd yno eleni, a llai o hipis, o be allen i weld.

Nes i fwynhau:
Cate le Bon! Mae ei halbym cyntaf 'Me Oh My' yn hynod o dda a nath hi gig gwych. Nath Richard James hefyd neud gig arbennig o dda gyda tiwns newydd, a'r ddau yn dod at ei gilydd am gwpl o ganeuon hefyd. Roedd Jonny, band Euros Childs a Norman Blake wedi dennu lot mewn i'r babell Far Out i weld y ddeuawd yn neud eu gig cynta yng Nghymru.

Nath bandie fel Peggy Sue, Le B, Gentle Good, Sweet Baboo a Martin Carr neud yn dda ar y llwyfan lleia yn yr wyl, oedd gyda cynulleidfa enfawr yno drwy'r amser. Roedd Strangeboys o Texas, Vetiver a Wooden Shijps yn uchafwbyntiau i fi, a Beth Jeans Houghton sy'n ferch eitha newydd i'r sin, ac yn 19 mlwydd oed. Mae'n edrych fel Lady Gaga ac yn swnio fel cantores o'r 60au. Gwych.

Dwy flynedd yn ol pan roedd Devendra Banhart yn headlinio'r prif lwyfan fe ofynodd i rywun o'r gynulleidfa ddod lan i ganu un can. Nath y ferch yma ddod lan a chanu gyda gitar, a do'n i ddim yn meddwl fod hi'n wych. Beth Jeans Houghton oedd hi. Doniol sut ma pethe'n newid.

Ar y prif lwyfan, (gweler llun hynod o broffesiynnol a gwych fydd yn bownd o ennill gowbrau yn y dyfodol, isod) Bon Iver nath ennill y penwthnos. Mae'r canwr o'r Unol Daleithiau wedi creu swn arbennig a dilyniant enfawr yn ddiweddar, ac roedd gweld e yng Nghrughywel yn brofiad arbennig.

Mae'r wyl yn parhau i fod yn un angenrheidiol i ffans o gerddoriaeth werin, seicadelig, newydd ag artistiaid, fel 9Bach yn enghraifft perffaith, sydd yn ail recordio a newid tiwns traddodiadol i fod yn fwy cyffrous a diddorol. Mae'r wyl yn falch o'i gwreiddiau Cymraeg a Chymreig hefyd, sydd i'r rhan fwyaf o bobl sy'n mynd iddi (o Loegr), yn gneud hi'n wyl hyd yn oed yn fwy pleserus a chyffrous. Mae hi'n debygol fydd hi'n tyfu tipyn yn y dyfodol; fi'n edrych mlan i'r penwythnosau dros y blynyddoedd nesa yn barod.


Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.