Albyms newydd
Helo
Mae hi'n gyfnod reit brysur o ran albums newydd. Yn ddiweddar ar raglen Lisa, da ni di chwara tracia' exclusive oddiar CD newydd , sy'n gymysgedd difyr o ganeuon acwstic, a chaneuon indie hamddenol; "Paid Edrych i Lawr gan sy'n albym pop wych hefo caneuon bachog a chynhyrchu anhygoel o gyfoethog; ma albym newydd yn hyfryd o dywyll; ac ma tracia hefyd gwerth gwrando arnyn nhw - yn enwedig gan ei bod nhw am ddim! A nos Iau a nos Wener yma am 10pm, mi fydd Lisa'n chwara tracia newydd sbon gan , sy'n arbennigo mewn mash ups glitch hop/drum 'n' bass o ganeuon Cymraeg hen a newydd.
Hefyd nos Wener, sesiwn newydd gan , "surf band" newydd Alun Tan Lan, Sion Glyn, Pete Richardson a Gruff Eitha Tal Ffranco. Dwi ddim yn siwr be' i'w ddisgwyl, ond yn ol rywun sy' di bod yn y stiwdio hefo nhw, ma' nhw'n anhygoel o dda...
Felly lot o gerddoriaeth dda o gwmpas ar hyn o bryd!