Noson Claddu'r 'Khan
Wythnos diwethaf ar sioe Magi Dodd fe wnaeth Ashokan gyhoeddi eu fod wedi chwalu ar ôl 12 mlynedd o gigio, dwy albwm a tua mil o wahanol aelodau. Roedd Magi a Jeni Lyn druan yn eu dagrau wrth glywed Rhys 'Donut' Jones yn cyhoeddi fod taith hir teulu'r Khan wedi dod i ben.
Wel, ges i'r pleser neithiwr (14/9/09) o wahodd, Donut Aled Davies a Marc Real i drafod pam eu bod wedi penderfynu rhoi'r gitar yn y to ac i edrych nol ar rhai o uchafbwyntiau Ashokan. Ymysg y perlau oedd y band yn sôn am eu ffrae gyda rocwyr Penllyn NAR ar maes-e ynglŷn a phwy oedd y band trymaf (Gethin yr allweddellydd gafodd y bai gan y lleill), stori am Alun y prif leisydd yn torri ei fraich hanner ffordd drwy ffilmio'r fideo i'r gan 'Dim Coes, Dim Brec' a stori Marc am gystadleuaeth creu cacen ar Uned 5 aeth o'i le (nath Ashokan ddim cael gwahoddiad yn ôl i stiwdio Uned 5!).
Nath Ashokan ryddhau dwy albym yn 2004. Yn gyntaf 'Diolch am ddal y Gannwyll' oedd yn gymysgedd o draciau pop-ffync gyda elfennau trymach adran rhythm y band yn dechrau amlygu eu hunain (a weithiau'n brwydro yn erbyn y melodïau!). Roedd 'Ashokan 2' dipyn trymach ac yr arddangos dylanwadau metal arbrofol y grŵp oedd erbyn hynny yn rhan amlwg o'u set byw. Ymysg uchafbwyntiau y cyfnod yma yn hanes y band oedd cloi gig Rhyng-gol 2004 yn Aberystwyth, chwarae yn y Carling Arena yn Llundain a cael eu chwarae ar sioe roc Radio 1 ar nifer o achlysuron. Cafodd ail albwm y band ei enwebu am albwm y flwyddyn yng Ngwobrau RAP 2005 hefyd.
Roedd y band wedi mynd trwy gyfnod eithaf tawel ers 2005, gyda Alun y canwr a Slug y drymiwr yn gadael Ashokan yn ystod y blynyddoedd diweddar ond roeddent wastad ar eu gorau pan yn herio'r gynulleidfa neu'r bandiau eraill gyda chymysgedd o hiwmor (nad oedd bob tro yn cael ei werthfawrogi) a chymeryd y mic allan o unrhyw fand neu aelod o'r gynulleidfa oedd eisiau cymeryd yr abwyd. Bydd colled ar ei hol ond gobeithio cawn glywed gan yr aelodau eto yn y dyfodol agos!
Gallwch wrando eto ar y cyfweliad ar yr IPlayer.