Mynd am y brig - mewn dwy gamp!
Ddim yn aml chi'n cwrdd â rhywun sydd wedi torri record byd mewn unrhyw gamp, felly pan y'ch chi'n cwrdd ag athletwr sydd a record byd mewn dwy gamp chi'n gwybod eich bod mewn cwmni rhywun arbennig iawn! Mae Aled Sion Davies yn gobeithio ennill y fedal aur yng ngemau Paralympaidd 2012 yn Llundain ac yn dal record y byd ar gyfer taflu'r pwysau a'r ddisgen o dan 18 (dim ond 5 metr y tu nôl y record byd y ddisgen ar gyfer bob oedran).
Er taw dim ond 18 oed yw Aled, mae e' ar hyn o bryd yn y 4ydd safle yn y byd o fewn ei gamp ac yn gobeithio y gall esgyn i'r brig ymhen tair mlynedd. Ar hyn o bryd mae'n anelu at bencampwriaeth y byd yn Seland Newydd flwyddyn nesa gan hyfforddi am 6 awr y dydd yn ogystal a dilyn cwrs gradd BSc Rheoli Chwaraeon ym Mhrifysgol Athrofa Chwaraeon Caerdydd (UWIC). Mae'n deg i ddweud nad yw Aled di bod fel fyfyriwr nodweddiadol yn ystod wythnos y glas!
Er ei holl lwyddiant, mae gan Aled orwelion ehangach na Llundain 2012 achos mae o'n gobeithio cyrraedd gemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro gan gystadlu ymysg y goreuon fel y person cyntaf gydag anabledd i wneud hynny. Ar ôl siarad ag Aled, does gen i ddim amheuaeth fod ganddo'r ymroddiad a'r gallu i wireddu ei freuddwyd. Gobeithio'n fawr y cawn ni'n cyfle i siarad ag ef eto cyn bo hir weld sut mae pethau'n datblygu.
Cyngor Aled i athletwyr ifanc - gweithio'n galed a mwynhau eu camp. Ceir fwy o wybodaeth am gyfleoedd i bobl ifanc ag anableddau ewch i wefan
a hefyd ar wefan . Mae na glipiau ohono ar wefan Ö÷²¥´óÐã Raise Your Game ac ar Y Ras i Lundain ar wefan S4C
Grandewch ar y cyfweliad eto drwy fynd at gwrando eto ar fy rhaglen i ar nos Fawrth y 13eg o Hydref.
Hwyl Hefxxx