Ydi Magi yn enw gwrywaidd?!
Helo bawb!
Dwi wedi bod yn dweud lot fawr o helo a ffarwel yn ddiweddar - wrth bob un o'r criwie gwych wnaethon ni gwrdd a nhw fel rhan o Daith Ysgolion C2 / Ciwdod, yna wrthoch chi gyd wrandawyr hyfryd C2 gan fy mod i bellach yn chychwyn ar wythnos a hanner o wylie!
Mi fydda'i yn fy ôl ar C2 nos Lun, Tachwedd 9fed, ond peidiwch a phoeni - yn y cyfamser byddwch chi mewn dwylo diogel Griff Lynch, Hefin Thomas a Jeni Lyn. Nhw fydd yn cadw fy sedd yn gynnes yn y cyfamser.
Mi fyddai'n meddwl lot tra ar fy ngwylie am fy enw... Magi. Mi ydw'i wastad wedi meddwl amdano fel enw benywaidd, ond mi dderbyniais i e-bost gan un o wrandawyr C2 yr wythnos d'wetha yn dweud ei bod wedi enwi ei chath ar fy ôl, a'i alw'n Magi - ond iddyn nhw ddarganfod wedyn ei fod yn gwrcath (sef cath wrywaidd)!
Chware teg, mae nhw wedi danfon llun o Mr Magi i mewn i ni - mae'n gath hyfryd yr olwg:
Nid Mr Magi yw'r unig gwrcath dwi'n ymwybodol ohono sydd wedi ei alw'n Magi fodd bynnag - dyna yw enw cath Robin Owain sy'n gyfrifol am Gwyliwch y Gofod ar C2 hefyd!!
Hwyl am y tro - dwi'n mynd i bacio fy nghes ar gyfer fy ngwylie!
Magi. x