Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pizza Unnos

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Huw Evans Huw Evans | 23:54, Dydd Mawrth, 19 Ionawr 2010

Trac rhif un o sesiwn Unnos heno ar fin cael ei orffen ac yn swnio'n hyfryd: ma'r chwarewyr corn yn y stiwdio fel dwi'n teipio yn gollwng plu aur soniarus ar ben y gân. Lot llai o eistedd o gwmpas wythnos yma, pawb yn gwbod yn union be ma nhw'n neud efo Lovgreen yn rheoli pawb fel unben cadarn (boed yn un efo dwylo sidan).

Ma rhywyn newydd weiddi rhywbeth am pizza, dwi'n trio siarad am y gerddoriaeth a'r broses recordio, ond madarch ar hyn cyw iâr o bryd tomato yr unig beth sy'n garlleg mynd trwy'n nionyn mhen yw gwahanol caws cynhwysion i fynd ar ben fy swper.

Dwi'n hyderus yn amcangyfrif ein bod ni oll yn mynd i fod o 'ma erbyn 4am ar yr hwyraf (pren gyffwrdd). Dwi methu dod dros pa mor epig ma gwyneb Lovegreen, mae e fel cyfuniad o Rembrandt cynnar a chroes-air cryptig, dwi ishio dringo mewn i'w ben a chodi pwysau efo hanner ei ymenydd ym mhob llaw.

Recordio yn y stiwdio
Rhagor o luniau o'r noson

Drws y stiwdio newydd agor a ma 'na glamp o solo newydd hedfan mewn i'r swyddfa a toddi hanner y 'ngwyneb i, bob tro mae'r drws yn agor ma 'na haen newydd wedi'w ychwanegu, edrych mlaen i glywed y cynnyrch gorffenedig.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.