Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sesiwn Unnos ar fin cychwyn!!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Huw Evans Huw Evans | 17:45, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2010

Wedi cyrraedd Bangor ar ôl siwrne unig ar y trên yn darllen Crash gan J G Ballard. O'n i'n falch iawn i gyrraedd ar ôl teimlo'n hun yn ymgolli yn y nofel a dechre dychmygu'r trên yn cal damwain erchyll a fi a'r hen fenyw o 'mlaen i yn cael ein taflu i'r llawr ac yn gorwedd mewn pwll o smoothie, mwg a gwydr di smasho...

Dwi yma i gychwyn gwaith ar gyfres newydd sbon or enw 'Sesiwn Unnos'; da ni'n recordio'r rhaglen gyntaf heno efo Mr Phormula (Ed Holden) a Hoax (Anthony Robinson) o Pentagram a Robbie Buckley (sy ddim yn berthyn i Tim na Jeff) o Gwibdaith Hen Fran.

Cyn i fi egluro be yn union sy'n digwydd yn y gyfres, dyma mae Wikipedia, y ffynhonnell ddwfn o wybodaeth sydd wastad efo un neu ddau o newyddiadurwyr Golwg o'i amgylch yn trio ffeindio allan os mai Mari Lovgreen yw merch Ian Mcshane, i ddeud am dai Unnos...

"It was believed by some, that if a person could build a house on common land in one night, that the land then belonged to them as a freehold. There are other variations on this tradition: that the test was to have a fire burning in the hearth by the following morning; and that the squatter could then extend the land around by the distance they could throw an axe from the four corners of the house."

Felly, yn syml, y syniad yw adeiladu tÅ· cerddorol yn y Ö÷²¥´óÐã ym Mangor, rhoi'r lle ar dân, taflu bwyell o ddrysau'r prif fynedfa a gweddio i Dduw fod e ddim yn diweddu ym mron un o fyfyrwyr prif ysgol Bangor... neu rwbeth fe'lna.

Mae'r cerddorion yn cyrraedd am 7yh a ma gyno nhw tan 9 y bore i recordio EP o gerddoriaeth gwreiddiol wedi cyfansoddi yma yn HQ darlledu Cymraeg gogleddol y genedl. Syml... falle. Tra bod hyn yn digwydd mi fydd yna rywun hefyd yn creu gwaith celf gwreiddiol i'r EP tra bo fi yn rhedeg ogwmpas yn yfed coffi ag yn gneud cyfweliadau difyr am 4 o'r gloch y bore. Syml eto... falle.

Bob wythnos fe fydd yna gasgliad o gerddorion yma yn cydweithio'n frwd ag yn trio creu EP gwreiddiol fydd yn galluogi nhw i hawlio darn o dir yng ngwlad gwyrdd a ffrwythlon cerddoriaeth cyfoes Gymraeg.

Dwi'n edrych ymlaen yn arw at gychwyn a gweld sut ma pobol yn ymateb i fi'n rhoi meicroffon yn eu gwynebau nhw am 4 o'r gloch y bore tra bo nhw'n trio recordio solo allweddellau am y 43fed take gydag un o'r cerddorion eraill yn gweiddi yn eu gwynebau nhw "JUST PLAY THE NOTE!!!"

Reit, dwi'n mynd i weld sut fath o fwyd sydd yng nghantîn y Ö÷²¥´óÐã, os dwi methu cal soya milk decaf machiato ma na fwyellau yn mynd i ddechre hedfan.

Huw Evans, gyferbyn â desg Jonsi, Ö÷²¥´óÐã Bangor, Bangor.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.