Unnos3: Yn Y Dechreuad
Helo bawb
Mae hi'n 7.45pm ar nos Fawrth, felly mi yda ni ar fin cychwyn recordio rhaglen Unnos! Y syniad, os nad yda chi wedi gwrando o'r blaen, ydy fod band yn cyfansoddi, recordio a rhyddhau EP mewn noson. Yr wythnos yma, sydd wedi derbyn yr her, a'i westai arbennig o ydy Dilwyn Llwyd o'r band . Cadwch olwg ar y blog i weld sut hwyl ma nhw'n gael arni; mi fydd yna luniau yn cael eu cyhoeddi yn ystod y nos, ac mae yna we gamera yn fama.
Mae'r band wedi cyrraedd, ac wrthi'n ymarfer, felly edrych ymlaen.
Hwyl
Gar
SylwadauAnfon sylw
Pob hwyl gyda'r recordio heno. Wedi mwynhau dilyn eich hynt a'ch helynt dros y pythefnos diwethaf ac yn edrych ymlaen at glywed cynnyrch Mr Huw, ond mae'n hwyr rwan. Dwi'n mynd am y cae sgwar gan fod raid i mi godi i fynd i'r ysgol fory.