Chwe gwlad!
Ma pencampwriaeth rygbi gorau'r byd ar y gweill unwaith eto a ddoe bues i'n ddigon lwcus i gael mynychu cynhadledd i'r wasg tim Cymru yng ngwesty Bro Morgannwg, lle mae'r tim yn paratoi i herio Lloegr yn Twickenham ddydd Sadwrn. Bydd hi'n gem anodd, gyda Lloegr yn enwi tim cryf heddiw a Chymru dal ddim yn sicr os fydd Lee Byrne yn cael chwarae. Nath y hyfforddwr Sean Edwards esbonio i'r wasg fod hyn yn golygu fod dau dim yn cael ei baratoi - un gyda Byrne a'r llall hebddo - rhag ofn i'w apêl yn erbyn ei waharddiad beidio bod yn llwyddiannus.
Nes i gael cyfle i siarad ag un sydd bron yn sicr o ddechrau'r gem sef y canolwr Jamie Roberts, yn ogystal â Non Evans, cefnwr tim y merched a Rhys Downes, mewnwr y tim dan ugain. Allwch chi glywed y cyfweliadau heno (nos fawrth) rhwng 11yh ac 1yb ar C2 yn ogystal a Dylan Ebeneser yn rhoi jincs ar darogan gêm Cymru.
Nes i fwynhau sgwrs neithiwr ar y sioe gyda fy ngwestai sef Osian Roberts - Cyfarwyddwr Technegol Cymdeithas Pel Droed Cymru (FAW). Nath Osian (neu Ocean fel ma'r Americaniaid yn ei alw) sôn am ei yrfa pêl droed allan yn yr UDA gyda'r New Mexico Chillies, a'i yrfa hyfforddi gyda timau ieuenctid Cymru, Porthmadog a'r Rhyl. Diddorol oedd cylwed ei farn am y newidiadau i uwch gynghrair Cymru, y tim cenedlaethol ac os fydd pêl droed byth yn gallu cyrraedd poblogrwydd Gridiron neu pêl fasged yn yr UDA. Allwch chi wrando nol ar y rhaglen ar yr IPlayer wrth gwrs.
Hwyl am y tro, a phob lwc i dimau Cymru ar y penwythnos!
Hef
xxx