Unnos4: Geraint Ffrancon
Dwi newydd fod yn siarad 'lawr y lein' hefo Mr Geraint Ffrancon sydd newydd gwblhau tirlun sonig aml-weadol wedi greu allan o bytiau sain clustfeiniol 'da ni 'di bod yn eu danfon i Geraint drwy'r nos.
Ma' Geraint yn gerddor electroneg, yn gyn-reolwr y label dychmygol 'Recordiau Safon Uchel' oedd yn rhyddhau degau o artistiaid gwahanol oedd i gyd yn bodoli yn ei ben. Yn dilyn rhoi'r label i gysgu fel ceffyl rasio efo athritis mae Geraint bellach yn gweithio ar brosiect newydd o'r enw lle mae'n cydweithio efo unrhywun sydd efo diddordeb cydweithio...
Mae Geraint wedi cymryd synau telyn Rhodri a gitar Ynyr ac wedi creu darn o gerddoriaeth sy'n swnio fel archdderwydd gyda delay pedal yn gwneud cerddoriaeth kosmiche yn y babell gelf.
Ribidirês Rhisiart, ribidirês...