Unnos5: Blog Dyl Mei
Cymerwch gant gram o Gwyneth Glyn, Gareth Bonello, Sion Glyn, Pete Richardson ac Aled Cowbois, cymysgwch y cyfan, ychwanegwch lond llaw o banjo, bass, gitar a dryms, a gorfennwch hefo dau lais swynol. Rhowch y gymysgedd mewn ffwrn am ddwy awr a hanner ac fe gewch gân anhygoel flasus, llawn calorïau.
Ar y brathiad gyntaf dwi'n blasu bach o The Beatles o tua 1968, ond ar ôl cnoi am funud neu ddwy dwi'n cael awgrym o John ac Alun ac efallai hyd yn oed olflas o Tony ac Aloma! Oiii, dewch 'nol!! Mae'r gân yn wir anhygoel, ac yn gerddoriaeth da iawn i mi wrando arno wrth wastio'r noson yn trio edrych yn brysur a dal fyny hefo e-bost!
Cofion
Dyl
Dyl a Huw yn "dal fyny hefo e-bost". Rhagor o luniau o'r noson