Unnos5: Cân2
Allai'm coelio pa mor sydyn mae'r ail gân wedi datblygu. Mi fydd hi wedi gorffen cyn i'r take-away gyrraedd. Am hanner nos fe wnaeth Gwyneth addo bydda na drac arall yn barod erbyn 1am, a nes i chwerthin, ond dwi'n meddwl falla bydd na go iawn.
Mae'r ail gân yn wahanol iawn - os oedd yr un gyntaf yn Beatles v Tony Ac Aloma, ma hon yn sinematig, spooky ac yn hudolus, hefo soddgrwth Gareth Bonello yn gefndir, a Aled Cowbois yn gwneud synnau arallfydol, dieithr ar y gitar. Gwych cael dwy gân mor wahanol mor sydyn.
Gar