Cael eich cerddoriaeth ar C2...
Helo bawb
Bore ma, mi fues i'n rhoi sgwrs bach i fyfyrwyr cerddoriaeth Coleg Menai. Y pwnc oedd "sut i gael eich cerddoriaeth ar y radio", ac mi oeddwn i'n meddwl falla bydda fo'n ddefnyddiol ei roi o ar flog C2 rhag ofn fod na ambell fand newydd awydd ychydig o "tips".
Hwyl
Gar
Byddwch yn dda!
Gorchymyn ychydig yn amwys, ond triwch wneud yn siwr o hyn drwy wneud y canlynol:
• Gwnewch yn siwr fod rhywun tu allan i'r band yn gwrando ar y caneuon cyn eu gyrru. Dim ffrindiau na theulu! Yn ddelfrydol, rhywun gonest hefo ychydig o brofiad cerddorol.
• Gigs - chwaraewch yn fyw i wella, ond hefyd i gael adborth gan y gynulleidfa a threfnwyr gigs.
• Gwrandewch ar eich cerddoriaeth gefn wrth gefn hefo rhai o'ch hoff artistiaid. Sut 'da chi'n cymharu?
• Peidiwch â brysio - cymrwch eich amser i ddatblygu fel artist. Peidiwch o reidrwydd â gyrru y peth cyntaf i chi ei recordio
• Dim "cover versions"!
Adnabod y rhaglenni
• "Peidiwch â gyrru emynau i Kerrang". Gwrandewch ar yr orsaf, a pheidiwch â gyrru cerddoriaeth gwbl anaddas i orsaf/cynhyrchydd/DJ.
• Gwrandewch ar raglenni ar y Ö÷²¥´óÐã iPlayer - lle fydda'ch cerddoriaeth yn gweddu ora?
• Dewch i adnabod chwaeth gwahanol gyflwynwyr. Gwrandewch ar wahanol raglenni ac edrychwch ar y rhestrau chwarae ar y we. Targedwch gyflwynwyr cerddoriaeth newydd- Lisa Gwilym, Huw Stephens, , a Bethan Elfyn.
Ymarferol
• Mae cyswllt personol yn bwysig. Ffoniwch, ebostiwch neu sgwennwch lythyr yn bersonol at y DJ. Triwch beidio gyrru ebyst cyffredinol i fileoedd o bobol!
• O ran gyrru demos - gyrrwch un gân, eich cân orau. Yn sicr peidiwch â gyrru mwy na thair cân.
• Mae gyrru ebost o mp3 yn gyfleus - ond eto, gwnewch yn siwr ei fod yn bersonol.
• Gyrrwch y caneuon ryw bedair wythnos cyn y dyddiad rhyddhau.
• Manylion sydd eu hangen: enw'r artist a'r traciau, dyddiad rhyddhau a rhif ffôn - rhowch rhain ar glawr y CD ei hun.
• Gyrrwch fywgraffiad byr o'r band.
• Os ydych chi'n hyrwyddo albwm, awgrymwch gân neu ddwy fel man cychwyn ar y gwrando.
• Peidiwch â phoeni hefo clawr/gwaith celf - tydy hynny ddim yn bwysig, cyn belled â bod y CD yn edrych yn broffesiynol.
• Cofiwch ffonio neu ebostio ryw wythnos ar ôl ei yrru i gael ymateb.
• Os ydech chi'n canu yn Saesneg, triwch y Ö÷²¥´óÐã uploader!
Does dim gwarant y caiff y caneuon eu chwarae hyd yn oed os wnewch chi hyn i gyd, ond mae'n le da i ddechrau...