Drygioni...
Ar ôl clywed am John Terry yn cythruddo Fabio Capello ynghyd a helynt Nicholas Anelka a charfan Ffrainc yng nghwpan y byd, nes i benderfynu rhoi tim o fechgyn drwg cwpan y byd at ei gilydd. Gyda help Owain Llyr, ein arbennigwr pel droed, a'n gwrandawyr aethon ati i greu y tim anhygoel isod. Fel y gwelwch chi, mae'n dim gwych sy'n chwarae a system ymosodol 3-4-3 gyda rheolwr anhygoel, sef fi (gaiff Owain Llyr gario'r diodydd!)
Tim "Bechgyn Drwg" Cwpan y Byd C2
Golgeidwad
Harald Schumacher (Gorllewin yr Almaen, 1982 - Bwrw Partick Battison)
Amddiffyn...
Slaven Bilic (Croatia, 1998 - Cael Laurent Blanc di hel o'r maes)
Patrice Evra (Ffrainc 2010 - Ffraeo da rheolwr Ffrainc a cholli'r capteniaeth)
Bobby Moore (Lloegr 1970 - Cael ei arestio ar gyhuddiad o ddwyn breichled)
Canol cae...
Roy Keane (Gweriniaeth Iwerddon, 2002 - Ffraeo da rheolwr Iwerddon a cherdded i ffwrdd o'r garfan)
Zidane (Ffrainc, 2006 - Am benio Materazzi)
Ronaldo (Portiwgal, 2006 - Wincio I gael Rooney di hel o'r maes)
Rivaldo (Brasil 2002 - Smalio cael pel di daflu yn ei wyneb)
Ymosod...
Maradona (Ariannin, 1986 - Y law dduwiol, 1994 - Gwaharddiad am gyffuriau ac am saethu at newyddiadurwyr!)
Rooney (Lloegr 2006 - Sefyll ar Carvalho)
Rudi Voeller (Gorllewin yr Almaen, 1990 - Poeri at Frank Rijkaard)
Ar y fainc...
Beckham - Lloegr, 1998
Rene Higuita - Colombia, 1990
John Terry - Lloegr, 2010
Frank Rijkaard - Iseldiroedd, 1990
Rheolwr
H Thomas
Dyn y sbwng hud
O Llyr
Unrhyw awgrymiadau eraill?
SylwadauAnfon sylw
Rudi Voeller (Gorllewin yr Almaen, 1990 - Poeri at Frank Rijkaard)
chwarae teg rwan Hefin, Ffranki fudur nath fflemio ar Rudi yn gyntaf ynte...ond ella fod Voller yn haeddu ei le oherwydd ei fwsdash naff a'i bermwallt truenus
2-0 i'r Hun b'nawn Sul, gyda llaw