Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Goldfrapp yn Amsterdam

Nia Medi Nia Medi | 12:22, Dydd Mawrth, 31 Awst 2010

Fi'n hoff iawn o fynd dramor i weld bands yn chware am ddau rheswm da iawn.
1) Mae'n gyfle i archwilio dinas / lle newydd yn y byd, a
2) mae'n rheswm cadarn a chredadwy pam bod eich Mam yn gofyn 'Nia, Pam wyt ti'n mynd i Amsterdam?'

Ie, i Amsterdam yr es i (bythefnos yn ôl erbyn hyn) am 3 noson, ac o'n i ddim yn dweud celwydd wrth Mam - ar yr ail noson es i weld Goldfrapp yn chware yn clwb Paradiso yn y ddinas. Ma nhw newydd rhyddhau ei pumed albym stiwdio 'Head First' sydd yn pop-tastig o wych! Pan glywes i fod nhw'n chware yn y 'Dam, o nhw heb gyhoeddi ei taith Brydeinig eto, a dwi'n falch o hynny achos ges i amser hollol FFAB!

Os chi'n ffan o Goldfrapp byse chi wedi bod wrth eich bodd - caneuon gwych o'r albym newydd a chymysgedd o hen glasuron fel 'White Horse', 'Ooh la la la', a hyd yn oed y clasur 'Utopia' o'r albym orwych gyntaf 'Felt Mountain'.

Rodd e'n hyfryd, yn wallgo, yn brydferth ac yn rhywiol - i gyd ar yr un pryd, ond dyna ddigon am 'ardal y Golau Coch'... Ro'dd Alison Goldfrapp ar ei gorau ac yn atgyfnerthu ei statws fel brenhines pop electro y funud. Ma nhw'n chware ym Mhrydain cyn hir a bysen i'n argymell i chi fynd i weld!

Dyma lun o Goldfrapp yn Amsterdam:

46089_10150244823165346_653250345_13794322_4454484_n.jpg

Bant i Asia ydw'i nesa, nid i weld band y tro hwn (er mae'n siwr y nai weld gyrn dipyn yno - y tro diwethaf es i, weles i'r band Jazz Vietnamses mwya gwallgo erioed yn chware yn y brif ddinas, Hanoi) ac yna fyddai nol ar ôl dôs dda o gelfyddyd hollol wahanol.

Ma gwylie Cymreig yr Haf yn gallu 'neud hyn i fi o bryd i'w gilydd - wedi gweld yr un bands yn chware gyment o weithiau (er yn wych) a gweld yr un bobl drosodd a throsodd (er, hefyd yn wych), ambell waith mae'n rhaid dianc... i ben draw'r byd!

Erbyn i fi ddod Nol mi fydd band roc Alien Square wedi darlledu eu sesiwn ar gyfer C2 (Ma' nhw'n recordio 'da Tim Hamil nawr) a rwy'n edrych mla'n i gael tipyn o roc newydd ar yr awyr!

Tan y tro nesa
chào từ biệt ai, chia tay ai!

Nia xx

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.