Gruff Rhys - albwm newydd a'i ffilm Separado!
Ar raglen Dodd com ar www.bbc.co.uk neithiwr fe soniodd Gruff am albym unigol newydd Gruff Rhys, a'r daith a ffilm newydd sydd ganddo hefyd.
Bydd yr albym Hotel Shampoo yn cael ei ryddhau ar Chwefror 14eg, 2011 ar label OVNI (TURNSTILE) ar ffurf, feinyl, CD ac yn ddigidol. Bydd yr albym yn cynnwys 14 o draciau newydd:
Shark Ridden Waters
Honey All Over
Sensations In The Dark
Vitamin K
Take a Sentence
Conservation Conversation
Sophie Softly
Christopher Columbus
Space Dust #2
At The Heart Of Love
Patters Of Power
If We Were Words (We Would Rhyme)
Rubble Rubble
Gallwch wylio fideo sydd yn cyd-fynd a thrac cyntaf yr albym, Shark Ridden Waters, ar wefan Gruff Rhys - .
Mae Gruff newydd ddychwelyd o Wyl Ffilm Rhyngwladol Copenhagen lle bu'n dangos ei ffilm SEPARADO! Gallwch weld Separado yn y canolfannau yma:
Tachwedd 19, 20 a 21 - Hen Neuadd y Farchnad, Amwythig
Rhagfyr 2 - Caffi'r Chwarel, Machynlleth