Newidiadau cyffrous yn digwydd i amserlen C2!
Nos Lun, Tachwedd 8fed 2010 bydd newidiadau cyffrous yn digwydd i amserlen C2!
Bydd Magi Dodd yn gadael ei rhaglen arferol i gyflwyno rhaglen arbennig ar y we - Dodd com. Caiff y rhaglen ei darlledu rhwng 7-8pm nos Lun i nos Wener, fel rhaglen amgen i ddarpariaeth Geraint Lloyd ar FM.
Bydd y rhaglen newydd yma'n un rhyngweithiol - gyda'r gwrandawyr a defnyddwyr gwefan / tudalen Facebook / Twitter C2 yn rhan bwysig o'r cynnwys.
Yn ychwanegol i hyn bydd Magi yn mynd a pheth cyfrannwyr a chynnwys o'i rhaglen radio efo hi ar nosweithiau penodol, gan gynnwys Aled Haydn Jones, Glyn Wise, y Cwis Pop, a Pod Dodd.
Yn cymeryd drosodd rhwng 8-10pm fydd Lisa Gwilym, sydd yn dychwelyd i C2 wedi ei chyfnod yn y bore cynnar.
Rhwng 10pm-12am bydd cyflwynwyr gwahanol pob nos:
Huw Stephens fydd ar y tonfeddi nos Lun, efo sesiynau stiwdio a sesiynau acwstig, a gwesteion cerddorol (Gruff Rhys o'r Super Furry Animals fydd ei westai cyntaf).
Ifan Evans - aelod newydd i dim C2 - fydd yn cyflwyno pob nos Fawrth gyda gwesteion amrwyiol, ac yn cadw llygaid ar y diweddaraf o'r byd chwaraeon (gan gynnwys y Sgorgasms).
Nos Fercher fe fydd cyfle i glywed cyfresi amrywiol (Sesiwn Unnos, O'r Ystafell Werdd, Geraint Jarman, Rhiniog ac ati) ac awr o gyflwynwyr amrywiol yn cyflwyno eu hoff gerddoriaeth).
Daniel Glyn fydd yn codi ei bac a symud i'w slot newydd ar nos Iau, gyda'r hwyr arferol yng nghwmni gwesteion difyr, phobl yn rantio am rai o'r pethau sydd wedi eu corddi yn diweddar, ac Elain Edwards yn trafod hynt a helynt byd Hollywodd yn Los Angeles unwaith y mis.
Huw Evans - enw a wyneb cyfarwydd i wrandawyr C2 - fydd yn cael ei slot ei hun ar nos Wener. Disgwyliwch yr annisgwyl gan Huw, a byddwch barod am ei dafod miniog a ffraeth.
Nos Lun:
7-8pm (ar wefan C2 yn unig) - Dodd com efo Magi Dodd
8-10pm - Lisa Gwilym
10pm-12am - Huw Stephens
Nos Fawrth:
7-8pm (ar wefan C2 yn unig) - Dodd com efo Magi Dodd
8-10pm - Lisa Gwilym
10pm-12am - Huw Stephens
Nos Fercher:
7-8pm (ar wefan C2 yn unig) - Dodd com efo Magi Dodd
8-10pm - Lisa Gwilym
10-11pm - cyfresi amrywiol
11pm-12am - cyflwynwyr gwahanol
Nos Iau:
7-8pm (ar wefan C2 yn unig) - Dodd com efo Magi Dodd
8-10pm - Lisa Gwilym
10pm-12am - Daniel Glyn
Nos Wener:
7-8pm (ar wefan C2 yn unig) - Dodd com efo Magi Dodd
8-10pm - Lisa Gwilym
10pm-12am - Huw Evans
Gobeithio cael eich cwmni!
Criw C2.