Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Albyms newydd... AM DDIM!

Criw C2 Criw C2 | 14:21, Dydd Mawrth, 7 Rhagfyr 2010

Cyfarchion yr wyl!

Mae'n edrych fel fod nifer o fandiau ac artistiaid yn teimlo'n hael iawn a hithau'n gyfnod y Nadolig, gan roi eu cynnyrch diweddaraf am ddim i'w ffans.

Euros Childs
Rhyddhaodd Euros ei albym ddiweddaraf, 'Face Dripping', ar Rhagfyr 6ed - ac mae ar gael i'w lawrlwytho am ddim o'i wefan . Os ydych chi'n teimlo'n euog yn lawrlwytho albwm gyfan am ddim mi allwch roi cyfranniad tuag ato, neu brynnu copi caled o'r albym ar ffurf CD.

Mr Huw
Hefyd ar Rhagfyr 6ed rhyddhaodd Mr Huw ei albym ddiweddaraf. 'Gogleddwyr Budur', sydd ar gael i'w lawrlwytho am ddim o .

Huw M
Bydd EP o ganeuon Nadoligaidd gan Huw M ar gael mewn gig arbennig yn y Gwdihw, Caerdydd ar Rhagfyr 15ed, ond gallwch lawrlwytho y caneuon am ddim wedi hynny.

Colorama
Yn ymuno yn yr haelioni Nadoligaidd yma hefyd mae Colorama. Mae eu sengl newydd nhw, 'Cerdyn Nadolig' ar werth ers Rhagfyr 6ed, ond mi allwch chi lawrlwytho y prif drac oddi ar y sengl am ddim - am fwy o wybodaeth.

Hwyl am y tro, a chadwch yn gynnes!

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.